Richard Ithamar Aaron: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
D22 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''Richard Ithamar Aaron''' ([[6 Tachwedd]], [[1901]] – [[4 Ebrill]], [[1987]]) yn [[athronydd]] o Gymro, a aned ym [[Blaendulais|Mlaendulais]], [[Morgannwg]].
 
Cafodd Aaron ei addysg brifysgol yng [[Coleg Oriel, Rhydychen|Ngholeg Oriel]], [[Rhydychen]]. Roedd yn Athro Athroniaeth yng [[Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth|Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth]], o [[1932]] hyd ei ymddeoliad yn [[1969]]. Bu hefyd yn is-gadeirydd [[Coleg Harlech]], llywydd [[Cymdeithas y Meddwl]] a chadeirydd [[Cyngor Cymru]]. Rhwng [[1938]] a [[1968]] golygodd y cylchgrawn ''[[Efrydiau Athronyddol]]''.
 
Prif ffocws ei waith athronyddol oedd [[epistemoleg]] a [[Cyffredinolion|chyffredinolion]], ond mae'n fwyaf adnabyddus am ei fywgraffiad o'r athronydd [[John Locke]].