Iddewiaeth yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cyfeiriad
Llinell 1:
Mae hanes '''Iddewon ac Iddewiaeth yng Nghymru''' yn cychwyn gyda sefydlu cymunedau [[Iddewon|Iddewig]] yn ne [[Cymru]] yn y 18fed ganrif. Yn [[1290]] cyhoeddodd [[Edward I o Loegr]] ddatganiad 1290 yn gorfodi'r Iddewon i adael [[Lloegr]], a dienyddwyd dros 300 o Iddewon Seisnig. Ond nid oes gennym unrhyw dystiolaeth fod Iddewon yn byw yng Nghymru yn yr [[Oesoedd Canol]] ar wahân i gyfeiriad ystrydebol gan [[Gerallt Gymro]], ar ddiwedd y [[12fed ganrif]], yn ei lyfr enwog ''[[Hanes y Daith Trwy Gymru]]''.<ref>Thomas Jones (gol.), ''Gerallt Gymro'' (Caerdydd, 1938), tud. 149. Hanesyn alegorïol am offeiriad ac Iddew yn cyd-deithio yn Swydd Amwythig ar ei ffordd i Gaer. Nid yw Gerallt yn cyfeirio at Iddewon yng Nghymru.</ref> Yn Lloegr, rhwng alltudio 1290 a'u dychweliad swyddogol yn [[1655]], ni cheir cofnod o Iddewon yn byw yno ac mae'r un peth yn wir am Gymru. Dim ond yn y 19eg ganrif y gellir sôn am gymunedau sylweddol o Iddewon yng Nghymru, er bod cofnodion hefyd am gymunedau bychain ac unigolion o'r 18fed ganrif.
 
==Cymunedau cynnar==