Iddewiaeth yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mae hanes '''Iddewon ac Iddewiaeth yng Nghymru''' yn cychwyn gyda sefydlu cymunedau [[Iddewon|Iddewig]] yn ne [[Cymru]] yn y 18fed ganrif. Yn [[1290]] cyhoeddodd [[Edward I o Loegr]] ddatganiad 1290 yn gorfodi'r Iddewon i adael [[Lloegr]], a dienyddwyd dros 300 o Iddewon Seisnig. Ond nid oes gennym unrhyw dystiolaeth fod Iddewon yn byw yng Nghymru yn yr [[Oesoedd Canol]] ar wahân i gyfeiriad ystrydebol gan [[Gerallt Gymro]], ar ddiwedd y [[12fed ganrif]], yn ei lyfr enwog ''[[Hanes y Daith Trwy Gymru]]''.<ref>Thomas Jones (gol.), ''Gerallt Gymro'' (Caerdydd, 1938), tud. 149. Hanesyn alegorïol am offeiriad ac Iddew yn cyd-deithio yn Swydd Amwythig ar ei ffordd i Gaer. Nid yw Gerallt yn cyfeirio at Iddewon yng Nghymru.</ref> Yn Lloegr, rhwng alltudio 1290 a'u dychweliad swyddogol yn [[1655]], ni cheir cofnod o Iddewon yn byw yno ac mae'r un peth yn wir am Gymru. Dim ond yn y 19eg ganrif y gellir sôn am gymunedau sylweddol o Iddewon yng Nghymru, er bod cofnodion hefyd am gymunedau bychain ac unigolion o'r 18fed ganrif. Erbyn heddiw ceir cymunedau neu [[synagog]]au mewn 27 o drefi, gyda'r mwyafrif ohonynt yn y de-ddwyrain.
 
==Cymunedau cynnar==
Llinell 7:
Gyda thwf cyffredinol mewnfudo Iddewon i wledydd Prydain yn y 19eg ganrif, sefydlwyd cymunedau Iddewig mewn sawl rhan o Gymru. Atgyfnerthwyd cymunedau oedd yn bodoli eisoes a sefydlwyd rhai newydd yn yr ardaloedd diwydiannol yn bennaf. Roedd hyn yn rhan o batrwm o bobl yn dod i mewn i Gymru o wledydd fel Iwerddon, Lloegr a'r Eidal i weithio. Erbyn diwedd y ganrif roedd cymunedau bychain o Iddewon, masnachwyr a pherchnogion siopau gan amlaf, i'w cael yn y rhan fwyaf o gymoedd y De.<ref>Todd M. Endelmann, ''The Jews of Britain, 1656-2000'' (University of California Press, 2002), t.130}}</ref>
 
Fel rheol, dangoswyd lefel cymeradwy o oddefgarwch tuag at y cymunedau Iddewig newydd hynny. Ond ceir un eithriad. Yn ardal [[Tredegar]]a threfi eraill yn y cylch, dangosodd [[gwrth-Semitiaeth]] ei ben ym mis [[Awst]] [[1911]], apnpan ymosodwyd ar siopau Iddewig gan dyrfaoedd o weithwyr, rhai ohonynt yn canu emynau Cristnogol, gan wneud rhwng £12,000 a £16,000 o ddifrod."<ref>Endelmann, ''op. cit.'', t.162.</ref>
 
==Heddiw==