Coleg y Santes Catrin, Rhydychen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{| class="toccolours" style="float: right; margin: 0 0 0.5em 1em; width: 25em; font-size: 90%;" cellspacing="3" |- | colspan="2" style="text-align: center...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 18:48, 23 Mai 2017
Coleg y Santes Catrin, Prifysgol Rhydychen | |
Arwyddair | Nova et Vetera |
Sefydlwyd | 1962 |
Enwyd ar ôl | Santes Catrin o Alexandria |
Lleoliad | Manor Road, Rhydychen |
Chwaer-Goleg | Coleg Robinson, Caergrawnt |
Prifathro | Roger Ainsworth |
Is‑raddedigion | 506 |
Graddedigion | 160 |
Gwefan | www.stcatz.ox.ac.uk |
Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Rhydychen yw Coleg y Santes Catrin neu Coleg St Catherine (Saesneg: St Catherine's College neu yn anffurfiol "Catz"). Mae gwreiddiau'r coleg yn dyddio i 1868, pryd y'i sefydlwyd fel delegacy (mudiad o dan rheolaeth y brifysgol) i ddarparu addysg i'r rhai na allasant fforddio treuliau dod yn aelod llawn o'r brifysgol. Yn 2006 roedd gan y coleg £53 miliwn o incwm blynyddol.[1]
Hanes
Ym 1874 ffurfiwyd y St. Catharine's Club neu'r St. Catherine's Club fel hwb i weithgareddau cymdeithasol y myfyrwyr. Cydnabuwyd y gymdeithas gan y Brifysgol ym 1931 fel y St. Catherine's Society. Penodwyd yr hanesydd Alan Bullock yn bennaeth (censor) i'r gymdeithas ym 1952. Erbyn hyn, roedd wedi tyfu i fod yn debycach i golegau'r brifysgol, ac ym 1956 penderfynwyd troi'r gymdeithas yn goleg. Erbyn 1962 roedd yr arian angenrheidiol wedi cael ei gasglu ynghyd, ac agorodd y coleg newydd ei ddrysau ym mis Hydref o'r un flwyddyn ar safle ar Manor Road, ar ochr ddwyreiniol canol y ddinas. Dyluniwyd adeiladau newydd y coleg gan y pensaer Danaidd o fri, Arne Jacobsen, mewn arddull modernaidd trawiadol. Yn y blynyddoedd cynnar dim ond dynion a gafodd fynychu'r coleg, ond ym 1974, roedd y coleg ymysg y grŵp cyntaf i dderbyn menywod. Erbyn 1978 roedd wedi tyfu i fod y fwyaf o golegau'r brifysgol. Ychwanegwyd adeiladau newydd ym 2005–2006 yn dilyn cynlluniau gan Stephen Hodder.
Aelodau enwog
- Euros Bowen, bardd
- Joseph Heller, awdur
- Peter Mandelson, gwleidydd
- Matthew Pinsent, rhwyfwr
- Jeanette Winterson, awdures
Cyfeiriau
- ↑ Oxford College Endowment Incomes, 1973–2006 Adalwyd 03/ Mai 2012.