Meisgyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Cwmwd canoloesol a bro ym Morgannwg, de Cymru, yw '''Meisgyn'''. Mae'n gorwedd ar lan orllewinol afon Taf. Gyda Glyn Rhondda roedd yn un o ddau gwmwd Cantref [[Pe...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Cwmwd]] canoloesol a bro ym [[Morgannwg]], de Cymru, yw '''Meisgyn'''. Mae'n gorwedd ar lan orllewinol [[afon Taf]]. Gyda [[Glyn Rhondda]] roedd yn un o ddau gwmwd [[Cantref]] [[Penychen]]. Defnyddir yr enw o hyd am y fro.
 
Ffiniai Meisgyn â'r [[Cantref Mawr (BrycheiniogTewdos|Cantref Mawr]], [[Brycheiniog]], i'r gogledd, [[Senghennydd]] i'r dwyrain, a [[Glyn Rhondda]] i'r de a'r gorllewin.
 
Wedi cwymp [[Teyrnas Morgannwg]] parhaodd [[Iestyn ap Gwrgant]] i reoli Meisgyn dan wyneb y [[Normaniaid]]. Yn [[1246]] cipiodd [[Richard de Clare]] y cwmwd a chododd gastell yn [[Llantrisant]] i'w rheoli. Ar ddiwedd y [[13eg ganrif]] a dechrau'r ganrif olynol, Llywelyn ap Gruffudd ([[Llywelyn Bren]], m. 1317) oedd arglwydd Meisgyn a [[Senghennydd]]. Cododd mewn gwrthyfel ond cafodd ei ddienyddio yn 1317. Yn ddiweddarach yn y ganrif rhanwyd y cwmwd yn ddwy [[maenor|faenor]], sef [[Pen-tyrch]] a [[Clun|Chlun]].