Coleg y Breninesau, Caergrawnt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 48:
== Y Bont Fathemategol ==
Cysylltir rhan hynaf (neu ''Yr Ochr Dywyll'', fel y'i gelwir gan y myfyrwyr) a rhan fwyaf newydd y coleg (''Yr Ochr Olau'') gan y '[[Pont Fathemategol|Bont Fathemategol]]', a llun y bont yw un o ddelweddau mwyaf adnabyddus Caergrawnt (gyda'r llun fel rheol yn cael ei dynnu o bont Silver Street). Yn ôl yr hanes, cynlluniwyd ac adeiladwyd y bont yn wreiddiol gan Syr [[Isaac Newton]] heb ddefnyddio'r un bollt na chneuyn, ac yna, rhywbryd wedi hynny, ceisiodd rhai myfyrwyr (neu gymrodorion, yn dibynnu ar ba fersiwn o'r hanes sy'n cael ei hadrodd) ei dymchwel a'i hail-adeiladu. Yn ôl yr hanes, gan nad oeddynt yn gystal peiriannwyr â Newton, bu rhaid iddynt, wedi amser hir o geisio a methu, yn y diwedd, ddefnyddio cnau a bolltydd i'w hail-adeiladu. Dyna pam y gwelir cnau a bolltydd yn y bont hyd heddiw. Celwydd yw'r stori hon: adeiladwyd y bont ym [[1749]] gan James Essex yr Ieuaf ([[1722]]–[[1784]]) yn ôl cynllun William Etheridge ([[1709]]–[[1776]]), dwy flynedd ar ugain ar ôl marwolaeth Newton. Fe'i hail-adeiladwyd ym [[1866]] ac eto ym [[1905]], yn ôl yr un cynllun.
 
[[Delwedd:Mathematical Bridge, Cambridge, large.jpg|thumb|dim|290px|Y Bont Fathemategol]]
 
== Neuadd Fitzpatrick ==
Llinell 117 ⟶ 119:
* 1982–1988: Ernest Ronald Oxburgh
* 1988–1996: John Charlton Polkinghorne
* 1997–heddiw: [[John Eatwell|John Leonard Eatwell]]
 
== Gweler hefyd ==