Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cath"

Ychwanegwyd 1,236 beit ,  3 blynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
 
Mae'n heliwr celfydd, a cheir dros fil o wahanol fathau. Gellir ei hyfforddi i ufuddhau i orchmynion syml. Mae rhai cathod penodol yn enwog am allu gweithio systemau mecanyddol syml fel dyrnau drysau. Mae cathod yn defnyddio nifer o wahanol fathau o synau ac iaith-gorfforol wrth gyfathrebu. Gyda 600 miliwn o gathod fel [[anifail anwes|anifeiliad anwes]] ledled y byd, cathod, mae'n bosib, yw'r anifail anwes mwyaf poblogaidd yn y byd.<ref>{{cite web|url=http://myspacetv.com/index.cfm?fuseaction=vids.individual&videoid=35944126 |title=Amrwyiaeth cathod gan National Geographic |publisher=MySpaceTV |date= |accessdate=2008-11-22}}</ref>
 
[[Delwedd:Oczy kota domowego -Aw58-.JPG|bawd|chwith|Gath]]
[[Delwedd:My cat - at home - Sieraków.jpg|bawd|chwith|Gath]]
[[Delwedd:Cat on a Book.jpg|bawd|chwith|Gath]]
 
Credir mai yn [[Aifft Hynafol]] y cafodd y cathod cyntaf eu hanwesubridio, ond fe ddarganfuwyd mewn astudiaeth yn [[2007]] mai yn y Dwyrain Canol - a hynny dros 10,000 o flynyddoedd yn ôl.
 
==Llên gwerin==
Roedd y gath ddof (Felis domesticus) yn werthfawr yng [[Cyfraith Hywel|Nghyfraith Hywel]] am iddi amddiffyn yr ysguboriau rhag plaon llygod. Mae llên gwerin yn ei chysylltu ag arwyddion tywydd, gwrachod y tybid y gallasent drawsffurfio eu hunain yn gathod, ac ystyrid y gallasai arwyddo hynt enaid ymadawedig i'r Nefoedd neu i Uffern. Mae'r [[Cymry]] yn hoff o weld cathod du eu lliw gan eu bont yn dod â lwc dda.
Ers diwedd y 1970au amlhaodd adroddiadau am gathod anferth tebyg i'r panther neu lewpard du, piwma a.y.b., yng nghefn gwlad Cymru, e.e. Bwystfil y Bont, Bwystfil Ton-mawr, Bwystfil Brechfa. Posib iddynt ddianc, neu gael eu rhyddhau o gasgliadau preifat i osgoi gofynion Deddf Anifeiliaid Peryglus 1976.
 
 
==Cath wyllt==
Roedd y gath wyllt (''Felis sylvestris'') i'w chael yn ardaloedd gwylltaf Cymru tan ddiwedd y [[18g]]. Cafodd ei difa pan ddaeth gynnau'n gyffredin a chiperiaid i warchod helfeydd y stadau. Roedd yn gyfyngedig i [[Eryri]] a'r [[Canolbarth Cymru|Canolbarth]] erbyn 1850 a thebyg mai'r cofnod olaf o'r brîd pur yw un o [[Aber-miwl]] yn 1862. Er hynny, goroesodd rhai cathod fferal â nodweddion corfforol y gath wyllt ynddynt hyd ddechrau'r [[20g]]. Anodd dilyn eu hanes i sicrwydd oherwydd cymysgedd ynglŷn â'r enwau, h.y. gallasai “cath goed”/”cath wyllt” mewn cofnodion plwyfi weithiau gyfeirio at gathod fferal a [[ffwlbart|ffwlbartod]].
 
{{clirio}}
Mae'r [[Cymry]] yn hoff o weld cathod du eu lliw gan eu bont yn dod â lwc dda.
 
== Cyfeiriadau ==
19,561

golygiad