Morlo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: tacluso a Blwch tacson using AWB
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
{{Priodoliad Twm Elias|: Gwyddoniadur Cymru|Gwasg y Brifysgol}}
Llinell 22:
Ceir dau rywogaeth o forlo o gwmpas arfordir Cymru: y [[Morlo Llwyd]] (''Halichoerus grypus'') a'r [[Morlo Cyffredin]] (''Phoca vitulina''). Er gwaethaf yr enw, y Morlo llwyd yw'r mwyaf cyffredin o'r ddau. Mae traean (33.3%) o boblogaeth y byd i'w gweld ar arfordir [[Dyfed]].
 
Mae'r morlo llwyd yn bridio mewn [[ogof|ogofâu ar arfordiroedd ac ynysoedd [[Penfro]], [[Ceredigion]], [[Llŷn]] a [[Môn]]. Roedd yn weddol brin ddechrau'r [[20g]] oherwydd fe'u difawyd gan bysgotwyr a'u hela o ran difyrrwch. Cynyddodd eu niferoedd yn sgil Deddf i'w gwarchod yn 1932 a throi ynysoedd Penfro yn warchodfeydd natur.
{{eginyn mamal}}
Crwydrodd rhai morloi ifanc, a anwyd ac a fodrwywyd ym Mhenfro, cyn belled â Môn, gorllewin [[Iwerddon]], [[Cernyw]], [[Llydaw]] a [[Gwlad y Basg]]. Weithiau nofiai'r morlo i fyny afonydd, e.e. Glaslyn, Tywi, er mawr bryder i bysgotwyr eogiaid. Ystyrir eu galwadau cwynfanllyd yn arwyddion tywydd gan drigolion yr arfordir. Cyfeirir at forloi mewn enwau lleoedd, e.e. Ogo'r morloi ([[ynys Enlli]]), [[Ynysoedd y moelrhoniaid]] (Môn).
Prin iawn yw cofnodion o'r morlo cyffredin (Phoca vitulina) yng Nghymru - fe'i gwelir yn Sianel Bryste yn bennaf. Cafwyd corff morlo ysgithrog neu walrws ar draeth [[Cefn Sidan]] yn Nhachwedd 1986.
 
{{Priodoliad Twm Elias|: Gwyddoniadur Cymru|Gwasg y Brifysgol}}
 
{{Wiciadur|{{lc:{{PAGENAME}}}}}}
 
[[Categori:Mamaliaid]]
[[Categori:Pinnipedia]]