19,737
golygiad
(fid) |
(testun gan Twm) |
||
[[Fertebrat|Anifeiliaid asgwrn-cefn]] gwaed oer gyda chroen cennog yw '''ymlusgiaid'''.
Mae ymlusgiaid ar pob [[cyfandir]] heblaw am [[Antarctica]] er fod mwyafrif ohonyn yn byw mewn ardaloedd [[trofannol]] ac
[[Delwedd:Natura 2000 - Madfallod Dwr Cribog.webmhd.webm|bawd|chwith|Fideo o'r [[Madfall ddŵr gribog]] yng Nghymru]]
* [[Testudines]] ([[crwban]]od): tua 300 rhywogaeth
==Cymru==
Pump rhywogaeth o ymlusgiaid sy'n frodorol i Gymry: dwy [[neidr]], a thair [[madfall]]. Mae'r [[neidr wair]] (''Natrix natrix'') yn weddol eang ei dosbarthiad a'r [[gwiber|wiber]] (''Vipera berus'') wenwynig yn fwy arfordirol. Ceir llawer o gyfeiriadau [[llên gwerin]] at wiberod, e.e. eu gallu i rowlio'n gylch, fel olwyn, i lawr allt. Credir fod 'Gwiber Penhesgyn' yn fath o ddraig neu sarff anferth reibus chwedlonol (Môn).
Mae'r [[neidr ddefaid]] (''Anguis fragilis'') yn fadfall ddi-goes a'r [[madfall cyffredin]] (''Lacerta lacerta''), yn eang eu dosbarthiad. Ceir llawer o enwau lleol ar y madfall cyffredin, e.e. cena pry gwirion (Llŷn), Galapi wirion (Môn), gena goeg (Clwyd), motrywilen a botrywilen ([[Dyfed]]). Collwyd [[madfall y tywod]] (''L. agilis'') o Gymru am gyfnod byr ar ddiwedd yr [[20g]], ond fe'i hailgyflwynwyd i safleoedd addas.
Cofnodwyd [[Môr-grwban|crwbanod môr]] ar draethau Cymru yn achlysurol, yn cynnwys y [[crwban môr cefn-lledr]] (''Dermochelys coriacea'') anferth ar Forfa Harlech yn 1988 a arddangosir bellach yn [[Amgueddfa Genedlaethol Cymru]].
{{Priodoliad Twm Elias|: Gwyddoniadur Cymru|Gwasg y Brifysgol}}
{{Wiciadur|{{lc:{{PAGENAME}}}}}}
|
golygiad