Simonides: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cywirio dolen
ehangu
Llinell 2:
 
[[Bardd]] [[Groeg (iaith)|Groeg]] [[clasur]]ol oedd '''Simonides''' (tua [[556 CC|556]] - [[468 CC]]). Mae'n adnabyddus yn bennaf am ei [[epitaph]]au er cof am y rhyfelwyr [[Groeg]]aidd a syrthiodd yn y rhyfeloedd mawr ag [[Ymerodraeth Persia]] i amddiffyn annibyniaeth Groeg. Cyfansoddodd nifer o [[awdl]]au, [[emyn]]au a [[marwnad]]au hefyd, ond mae rhan helaeth o'i waith ar goll erbyn heddiw.
 
Ganed y bardd ar ynys [[Ceos]], ger [[Athen]], tua'r flwyddyn 556 CC. Bu fyw am gyfnod yn ninas Athen a threuliodd amser yn [[Sicilia|Sisilia]] yn ogystal. Daeth yn enwog iawn a bu noddwyr yn barod i'w wobrwyo'n hael am ei gerddi. Yn ôl y dramodwr comig [[Aristophanes]], roedd yn ŵr ariangar, ond efallai fod cenfigen yn gorwedd tu ôl i'r cyhuddiad hwnnw.
 
Un o'i gerddi enwocaf oedd ei epitaph i'r Groegiaid a syrthiasai ym [[Brwydr Marathon|Mrwydr Marathon]]. Fe roddwyd ar feddrod y rhyfelwyr ym [[Marathon]]:
Llinell 10 ⟶ 12:
:a ddinistriodd rym y Mediaid eurwisg)
 
Cyfansoddodd [[telyneg|delyneg]] am hanes [[Danaë]], merch [[Argos]], hefyd. Dim on darn sydd wedi goroesi.
{{eginyn llenyddiaeth}}
 
==Llyfryddiaeth==
Ceir cyfieithiad gan J. Henry Jones o'r darn am Danaë yn y gyfrol ''Cerddi Groeg Clasurol'' (Caerdydd, 1989), gol. gan John Gwyn Griffith.
 
 
[[Categori:Beirdd Groeg]]
[[Categori:Groeg yr Henfyd]]
 
[[en:Simonides of Ceos]]