Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Daloni Metcalfe"

Ychwanegwyd 30 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
[[Delwedd:Daloni.jpg|thumb|de|280px|Daloni Metcalfe]]
Cyflwynydd teledu a radio yw [[Daloni Metcalfe]] (ganwyd [[9 Chwefror]], [[1968]]) sydd ar hyn o bryd yn cyflwyno rhaglen [[Ffermio (rhaglen deledu)|Ffermio]] ar [[S4C]]. Fe'i magwyd ar fferm fechan ym mhlwyf [[Llanrhychwyn]] yn [[Dyffryn Conwy|Nyffryn Conwy]], ynghanol defaid a gwartheg. Bu hefyd yn cadw merlen cob adran B am flynyddoedd. Bu hefyd yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifainc [[Llanrwst]].
 
Cafodd ei haddysg uwch ym [[Prifysgol Aberystwyth|Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth]], a daeth yn adnabyddus fel cyflwynydd ar [[Newyddion]] [[S4C]] a rhaglenni [[Heno]] a [[Wedi 7]].
== Ffermio ==
 
Ers Ionawr 2005, mae Daloni yn un o gyflwynwyr y rhaglen [[Ffermio (rhaglen deledu)|Ffermio]] ar [[S4C]] sy'n darlledu bob nos Lun am 8.25pm. Ei chyd-gyflwynwyr ar y rhaglen yw [[Iola Wyn]], [[Alun Elidyr]] a [[Mererid Wigley]], ac fe gynhyrchir y rhaglen gan [[Telesgôp|Teledu Telesgôp]].
 
Mae Daloni bellach yn ffermio gyda'i gwr Wil a'u tri plentyn, Ifan, Lili a Robin yn [[Tudweiliog|Nhudweiliog]] ym [[Penrhyn Llŷn|Mhenrhyn Llyn]], lle maen nhw'n cadw defaid a gwartheg masnachol. Mae Daloni ei hun newydd ddechrau cadw lloi [[Aberdeen Angus]].
139

golygiad