Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Sarn Helen"

Ychwanegwyd 218 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
ehangu
(chwaneg)
(ehangu)
:''Am y gân o'r un enw gan y [[Super Furry Animals]], gweler [[Mwng (albwm)|Mwng]]''.
 
Defnyddir yr enw '''Sarn Helen''', neu weithiau '''Sarn Elen''' am y [[Ffyrdd Rhufeinig Cymru|ffordd Rufeinig]] oedd yn rhedeg ar hyd ochr orllewinol [[Cymru]] o gaer ''Canovium'' ([[Caerhun]]) yn y gogledd hyd gaer a thref ''Maridunum'' ([[Caerfyrddin]]) yn y de. Credir fod yr enw yn dod o enw [[Elen Luyddog]], gwraig [[Macsen Wledig]] yn ôl y chwedl. Mae'r ffordd o Gaerhun i Gaerfyrddin tua 160 milltir o hyd.
 
Nid oes sicrwydd lle'n union yr oedd cwrs y ffordd i'r de o Bennal, ond gellir gweld rhan ohoni ger pentref [[Lledrod]] yn [[Sir Aberteifi]], ar ei ffordd tua'r gaer yn [[Llanio]]. Yn [[Llanfair Clydogau]] mae'n fforchio, gydag un fforch yn arwain i'r dwyrain heibio [[Llanymddyfri]] a [[Dolaucothi]] i ''Nidum'' ([[Castell Nedd]]), a'r llall yn mynd yn ei blaen i gyfeiriad Caerfyrddin.
 
==Caerau ar Sarn Helen==
Mae "Sarn Helen" hefyd yn deitl un o'r caneuon ar yr albwm ''[[Mwng (albwm)|Mwng]]'' gan y grŵp [[Super Furry Animals]].
Dyma'r caerau Rhufeinig sydd ar Sarn Helen, wedi'u rhestri o'r gogledd i'r de:
* [[Caerhun]]
** [[Bryn-y-gefeiliau|Caer Llugwy]]
* [[Tomen y Mur]]
* [[Brithdir]]
* [[Pennal]]
* [[Trawscoed]]
* [[Llanio]]
** Pant-teg-uchaf
* [[Maridunum]]
 
==Llyfryddiaeth==
* Cantrell, John ac Arthur Rylance (1992) ''Sarn Helen: walking a Roman road through Wales''. (Cicerone Press) ISBN: 9781852841010 (185284101X)
* Marples, Morris (1939) ''Sarn Helen: a Roman road in Wales''. (Y Drenewydd: Welsh Outlook Press)
==CysylltiadauDolenni allanol==
 
 
==Cysylltiadau allanol==
[http://www.gtj.org.uk/cy/item1/456 Llun o'r awyr o Sarn Helen ger Llanio (o Casglu'r Tlysau)]