Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Sarn Helen"

No change in size ,  12 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(ehangu)
B
Defnyddir yr enw '''Sarn Helen''', neu weithiau '''Sarn Elen''' am y [[Ffyrdd Rhufeinig Cymru|ffordd Rufeinig]] oedd yn rhedeg ar hyd ochr orllewinol [[Cymru]] o gaer ''Canovium'' ([[Caerhun]]) yn y gogledd hyd gaer a thref ''Maridunum'' ([[Caerfyrddin]]) yn y de. Credir fod yr enw yn dod o enw [[Elen Luyddog]], gwraig [[Macsen Wledig]] yn ôl y chwedl. Mae'r ffordd o Gaerhun i Gaerfyrddin tua 160 milltir o hyd.
 
Nid oes olion i'w gweld o ran gyntaf y ffordd ar ôl gadael Caerhun, ond credir ei bod yn dilyn glan orllewinol [[Afon Conwy]] cyn belled a [[Trefriw]], lle mae'n rhannu. Mae'r brif fforch yn arwain dros y bryniau i [[Betws y Coed]]. tra mae'r llall yn arwain ar gaer fechan [[Caer Llugwy]]. Gellir gweld rhai olion o'r brif ffordd wedi iddi rydio [[Afon Llugwy]], yn dringo dros y bryniau tua [[Dolwyddelan]]. Mae'n rhedeg ar hyd [[Cwm PenanmenPenamnen]] a heibio rhan uchaf [[Cwm Penmachno]]. Gerllaw [[Ffestiniog]] mae'r ffordd i'w gweld yn eglur am dros ddwy filltir wrth arwain tuag at gaer [[Tomen y Mur]].
 
Credir ei bod wedi dilyn llinell y ffordd bresennol heibio [[Trawsfynydd]]. Mae'n debygol ei bod yn pasio'n agos i safle'r gar fechan yn y [[Brithdir]], ger [[Dolgellau]], sy'n sefyll ar y ffordd Rufeinig i/o [[Caer Gai|Gaer Gai]], ger [[Llyn Tegid]], a [[Caer|Chaer]]. Er nad oes olion, credir ei bod wedi cadw at ochr ddwyreiniol [[Cadair Idris]] nes cyrraedd caer fechan [[Pennal]]. Efallai fod rhan o'r lein bach rhwng [[Aberllefenni]] a Maespoeth yn dilyn cwrs y ffordd Rufeinig.
889

golygiad