Positifiaeth resymegol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up using AWB
B dileu cat dwbl
Llinell 2:
 
Datblygodd [[Cylch Fienna]] yr ysgol feddwl hon yn y 1920au, ar sail gweithiau'r rhesymegwyr [[Gottlob Frege]] a [[Bertrand Russell]], efrydiau positifaidd [[Ernst Mach]], a gwaith [[Ludwig Wittgenstein]] a [[G. E. Moore]]. Un o brif daliadau'r mudiad oedd honiad Wittgenstein taw eglurhad [[y meddwl]] yw nod athroniaeth. Ceisiodd gyflwyno methodoleg a chywirdeb [[mathemateg]] a'r [[gwyddoniaeth naturiol|gwyddorau naturiol]] i faes athroniaeth, gan osod sylfeini [[athroniaeth ddadansoddol]] ar wahân i [[athroniaeth ddamcaniaethol]] a [[metaffiseg]]. Gwadodd [[gwirionedd|wirionedd]] y fath dybiaethau anwyddonol, a mynodd taw ystyr emosiynol yn unig sydd i [[dyfarniad gwerth|ddyfarniadau gwerth]]. Daeth dylanwad y mudiad i ben tua dechrau'r Ail Ryfel Byd, ond parháodd ei gysyniadau'n ddylanwadol yn athroniaeth y Gorllewin ar feddylwyr megis [[A. J. Ayer]] a [[Gilbert Ryle]].
 
{{eginyn athroniaeth}}
 
[[Categori:Athroniaeth ddadansoddol]]
[[Categori:Athroniaeth y gwyddorau]]
[[Categori:Athroniaeth iaith]]
[[Categori:Empiriaeth]]
[[Categori:Epistemoleg]]
[[Categori:Positifiaeth|Rhesymegol]]
[[Categori:Rhesymeg]]
{{eginyn athroniaeth}}