Tryfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dim angen dyfyniad hir yn Saesneg (creu nodyn)
BDim crynodeb golygu
Llinell 15:
Ar y copa mae dwy garreg fawr a fedyddiwyd yn "Adda ac Efa", ac mae'n gamp draddodiadol neidio o un i'r llall. Mae'n gallu bod yn gamp beryglus, yn arbennig pan fo'r gwynt yn chwythu'n gryf.<ref>[http://www.ogwen-rescue.org.uk/annual_reports/2001/2001_annual_report.pdf Adroddiad Blynyddol Tîm Achub Mynydd Ogwen 2001] Ffeil PDF</ref>
 
Meddylir yn aml mai 'tri' sydd yn elfen gyntaf yr enw '''Tryfan''' ac felly mai 'Tri phig' neu 'Tri phwynt' yw'r ystyr', ond mae [[Ifor Williams]] yn dangos mai 'try' yn yr ystyr gryfhaol (fel 'tryloyw' er enghraifft) sydd yma. Ystyr yr enw felly yw "mynydd sy'n codi'n uchel iawn, neu un sydd â [[blaen (tirffurf)|blaen]] main iddo".<ref>Ifor Williams, (''Enwau Lleoedd'', tud. 15).</ref> Mae'n enw y ceir enghreifftiau eraill ohono yng Nghymru, e.e. [[Mynydd Tryfan]] a [[Rhostryfan]] yn [[Arfon]] a [[Mynydd Tryfan]] yn [[Sir Ddinbych]]. Ceir yr enw hefyd am y llysiau [[Dail y tryfan]] (''[[Petasites]]'' yn [[Lladin]]).
 
==Cyfeiriadau==