A5: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→Cyfeiriadau: cat |
D22 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 5:
Mae llwybr yr A5 ar draws [[Lloegr]] yn dilyn yn agos iawn i lwybr ''[[Stryd Watling]]'', [[ffordd Rufeining]] o ''Dubris'' ([[Dover]]) i '' Londinium'' ([[Llundain]]), wedyn ymlaen i ''[[Viroconium]]'' (Caerurnas, neu [[Wroxeter]]).
Wedi ymadawiad y [[Ymerodraeth Rhufeinig|Rhufeiniaid]], parhaodd y ffordd, fel y rhan helaeth o'r rhwydwaith Rufeinig. Roedd nifer o [[
==Yr Amwythig i Gaergybi - Ffordd Thomas Telford==
[[Image:A5-llwybrhanesyddol.JPG|bawd|dde|224px|Arwydd yn cofnodi llwybr hanesyddol y ffordd]]
'Roedd gwaith [[Thomas Telford|Telford]] yn llawer mwy sylweddol o[[Yr Amwythig|'r
'Roedd uno [[Prydain Fawr]] gydag [[Iwerddon]] wedi creu galw am gryfhau'r cysylltiad ymarferol rhwng [[Llundain]] a [[Dulyn]]. Wedi sefydlu pwyllgor seneddol, comisiynwyd [[Thomas Telford]] i wella safon y ffyrdd yr holl ffordd o [[Llundain|Lundain]] i [[Caergybi|Gaergybi]]. Wedi pasio deddf seneddol arbennig yn y flwyddyn honno, cychwynwyd ar y gwaith ym [[1815]], a pharhaodd nes cwblhau [[Pont y Borth]] yn [[1826]]. Hwn oedd y tro cyntaf i arian cyhoeddus gyllido adeiladu ffyrdd ym Mhrydain ers oes y [[Ymerodraeth Rhufeinig|Rhufeiniaid]].
Llinell 20:
Mae nifer o nodweddion pensaernïol a pheirianyddol ar hyd y daith - cerrig milltir nodweddiadol am bob milltir o'r siwrnai, tollbyrth, giatau gyda chynllun 'codiad haul' arbennig. Adeiladwyd hefyd ''depots'' wedi eu lleoli yn rheolaidd ar hyd y ffordd, sef cilfachau wrth ymyl y ffordd er mwyn cadw graean a nwyddau cyffelyb i gynnal yr wyneb.
Mae cyfran sylweddol o'r nodweddion hanesyddol wedi goroesi ar hyd y daith o[[Yr Amwythig|'r
Mae gwaith [[Thomas Telford|Telford]] hefyd wedi ei brofi i'r eithaf. Ym [[1997]], adeiladwyd "gwelliant" modern ar gost sylweddol yn [[Tŷ Nant|Nhŷ Nant]], er mwyn osgoi troellau ar ffordd [[Thomas Telford|Telford]]. Erbyn [[2005]], roedd llithriadau creigiau yn peryglu'r llwybr newydd hwnnw, a bu'n rhaid ei gau dros dro. Er mawr embaras i'r awdurdodau, gorfu iddynt brynu yn ôl ac ail-agor rhan o'r hen ffordd, oedd wedi dangos ei gwerth bron 200 mlynedd ar ôl ei hadeiladu.
Llinell 29:
O'r [[Bwa Farmor]] yn [[Llundain]], aiff yr A5 ar hyd Ffordd Edgware allan o Lundain. Yma mae'r 'A5' yn diflannu ond pery'r ffordd fel yr A5183 trwy [[St Albans]] nes iddi gyrraedd cyffordd 9 yr [[M1]], lle daw yn A5 unwaith eto. Mae'r ffordd yn parhau trwy [[Dunstable]] i [[Milton Keynes]], lle mae'r A5 presennol yn ffordd osgoi ddeuol ar gyrion y dref, ond y ffordd wreiddiol yn dal i'w gweld ar ei ffurf syth Rufeinig.
Ar ôl pasio drwy [[Bwlch Watford|Fwlch Watford]], mae'n gwyro ychydig i'r gorllewin at [[Atherstone]] (ffordd osgoi arall, ond yr arwydd wreiddiol i [[Caergybi|Gaergybi]] i'w weld o hyd yng nghanol y pentref), [[Tamworth]] (ffordd osgoi bresennol), [[Cannock]] a [[Telford]]. Yno, tref newydd a enwir ar ôl y peiriannydd, mae'r enw 'A5' yn diflannu am gyfnod eto, wrth i draffig drwodd ymuno a'r [[M54]], ond unwaith eto mae'r ffordd syth wreiddiol i'w gweld.
Yn
Yng Nghymru, mae'r A5 presennol yn dilyn yn ffyddlon iawn at lwybr [[Thomas Telford|Telford]], trwy [[Llangollen|Langollen]], [[Corwen]], [[Cerrigydrudion]] (gwyriad bychan), a [[Pentrefoelas|Phentrefoelas]]. Aiff ar draws [[Pont Waterloo]] i mewn i [[Betws-y-Coed|Fetws-y-Coed]], ymlaen at [[Capel Curig|Gapel Curig]] wrth godi at uchafion [[Eryri]], heibio [[Tryfan|Mynydd Tryfan]], [[Llyn Ogwen]] a thrwy [[Nant Ffrancon]] at [[Bethesda|Fethesda]]. Mae ffordd osgoi o gwmpas [[Bangor]], ac wrth wyro tuag at y cylchdro mae'r A5 presennol yn gadael llwybr [[Thomas Telford|Telford]], rhan ohoni yn cynnwys tollborth a phont bwyso Lôn Isaf. Ond gan mai'r [[A55]] yw'r fordd osgoi bellach, mae'r A5 yn ailymuno â'r llwybr gwreiddiol trwy [[Bangor|Fangor]].
|