Beli Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: fr:Beli Mawr
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
:''Am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler [[Beli]].''
 
Roedd '''Beli Mawr''' neu '''Beli (Mawr) fab Manogan''' yn gymeriad mewn mytholeg Gymreig ac ynmae'n ymddangos fel brenin Brythoniaid yr [[Hen Ogledd]] yn yr ''[[Historia Brittonum]]'' a briodolir i [[Nennius]]. Roedd yn dad i [[Caswallon fab Beli]].
 
Mae'n cael ei enwi ar ddechrau ''[[Cyfranc Lludd a Llefelys]]'', yn [[Llyfr Taliesin]] ac yn ''[[Breuddwyd Macsen]]'', lle y dywedir fodbod [[Macsen Wledig]] wedi cymerydcymryd meddiant ar [[Ynys Brydain]] oddi ar Beli fab Manogan. Yn yr [[Hen Ogledd]], roedd arweinwyr ac arwyr fel [[Urien Rheged]], [[Gwenddolau]] a [[Llywarch Hen]] yn olrhain eu tras i Feli trwy eu cyndaid [[Coel Hen]]. Roedd pob un o deuluoedd brenhinol Cymru, er enghraifft teulu [[Cunedda]], sefydlydd [[teyrnas Gwynedd]], yn hawlio eu bod yn ddisgynyddion i Beli Mawr. Fe all fod yn cyfateb i'r duw [[y Celtiaid|Celtaidd]] [[Belenus]].
 
Mewn rhai ffynonellau mae'r dduwies [[Dôn]] yn ferch iddo. Cyfeirir ato fel tad [[Caswallon]] a [[Lludd]].