Kitab al-Aghani: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Kitab al-aghani.jpg|right|thumb|170px|Darlun o'r ''Kitab al-aghani'' (Llyfr y Caneuon), 1216-20, gan Abu al-Faraj al-Isfahani]]
 
[[Blodeugerdd]] o gerddi [[Arabeg]] gan yr awdur ac ysgolhaig [[Iran]]aidd [[Abu al-Faraj al-Isfahani]] ([[897]]-[[967]]) yw '''''Kitab al-Aghani''''' ([[Arabeg]]: كتاب الأغاني‎, 'Llyfr y Caneuon').
 
Mae'n cynnwys detholiad o gerddi a chaneuon o'r cyfnodau cynharaf yn hanes [[llenyddiaeth Arabeg]] (hyd at y [[9fed ganrif]]), ynghyd â brasluniau o fywyd yr awduron a straeon amdanynt. Gosodwyd y cerddi ar alawon, ond yn anffodus nid yw'n bosibl darllen y nodiant bellach.

Oherwydd y manylion hanesyddol a geir ynddo, mae'r Kitab yn ffynhonnell hanesyddol bwysig. Mae'n cynnwys llawer o wybodaeth am ffordd o fyw ac arferion yr [[Arabiaid]] cynnar, ac mae'n un o'n ffynonellau pwysicaf am y cyfnod cyn-Islamaidd a blynyddoedd cynnar [[Islam]].
 
{{eginyn llenyddiaeth}}
 
[[Categori:Blodeugerddi]]