Rowland Vaughan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
chwaneg
B dolennau
Llinell 3:
Ganed Rowland Vaughan tua 1587 yn fab i John Vaughan a'i wraig Elin, perchnogion plasdy hanesyddol [[Caer Gai]], plwyf [[Llanuwchllyn]], [[Meirionnydd]]. Cafodd ei addysg ym [[Prifysgol Rhydychen|Mhrifysgol Rhydychen]] ond does dim cofnod i ddangos iddo raddio yno. Priododd Jane ferch Edward Price o Dref-pysg yn Llanuwchllyn. Cawsant nifer o blant, hyd at wyth efallai.
 
Cymerodd Vaughan ran flaenllaw yn y cyntaf a'r ail o'r Rhyfeloedd Cartref. Roedd yn Uchel Siryf Meiriionnydd yn 1642-43. Dywedir iddo ymladd fel capten ar ochr y brenin [[Siarl I, obrenin LoegrLloegr a'r Alban|Siarl]] ym [[Brwydr Naseby|Mrwydr Naseby]]. Pan ddaeth lluoedd y [[Gwerinlywodraeth Lloegr|Werinlywodraeth]] i Feirion llosgwyd Caer Gai i'r llawr ganddynt i ddial arno. Cafodd loches yng Nghilgellan ar lethrau [[Aran Benllyn]]. Yn [[1650]] fe'i dalwyd a chafodd ei garcharu yng [[Caer|Nhgaer]] am gyfnod. Roedd bywyd yn galed arno ar ôl y rhyfel a bu rhaid iddo fenthyg arian gan berthnasau ar fwy nag un achlysur. Bu farw ar 18 Medi, 1667.
 
Ymddiddorai Rowland Vaughan mewn [[barddoniaeth]] a chanai ar y [[canu caeth|mesurau caeth]] a [[canu rhydd|rhydd]] (cyfansoddai ei wraig Jane o leiaf un gerdd ac roedd ei fab hynaf John yn fardd yn ogystal). Cyhoeddwyd detholiad o'i gerddi rhydd ar ôl ei farwolaeth, yn 1729. Ond fel cyfieithydd [[rhyddiaith]] dduwiol rhwydd a chain ei arddull y cofir Rowland Vaughan heddiw. Ei waith mwyaf adnbayddus yw ei ''Yr Ymarfer o Dduwioldeb'' (1630).