Beli Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Mae'n cael ei enwi ar ddechrau ''[[Cyfranc Lludd a Llefelys]]'', yn [[Llyfr Taliesin]] ac yn ''[[Breuddwyd Macsen]]'', lle y dywedir bod [[Macsen Wledig]] wedi cymryd meddiant ar [[Ynys Brydain]] oddi ar Beli fab Manogan. Yn yr [[Hen Ogledd]], roedd arweinwyr ac arwyr fel [[Urien Rheged]], [[Gwenddolau]] a [[Llywarch Hen]] yn olrhain eu tras i Feli trwy eu cyndaid [[Coel Hen]]. Roedd pob un o deuluoedd brenhinol Cymru, er enghraifft teulu [[Cunedda]], sefydlydd [[teyrnas Gwynedd]], yn hawlio eu bod yn ddisgynyddion i Beli Mawr. Fe all fod yn cyfateb i'r duw [[y Celtiaid|Celtaidd]] [[Belenus]].
 
Mewn rhai ffynonellau mae'r dduwies [[Dôn]] yn ferch iddo. Cyfeirir ato fel tad [[Caswallon]] a [[Lludd fab Beli|Lludd]] a [[Llefelys]].
 
Mae [[Sieffre o Fynwy]] yn troi Beli'n ''Heli'', a dan yr enw hwnnw y mae cymeriad Beli yn adnabyddus fel ffigwr yn y [[rhamant]]au diweddarach am y brenin [[Arthur]] yn Ewrop.
Llinell 14:
 
 
[[Categori:Mytholeg GeltaiddGymreig]]
[[Categori:Hanes traddodiadol Cymru]]
[[Categori:Cylch Arthur]]