Castell Dinas Brân: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
nodyn
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
Mae '''Castell Dinas Brân''' yn [[bryngaer|fryngaer]] ac yn [[castell|gastell]] [[Yr Oesoedd Canol|canoloesol]] ger [[Llangollen]], [[Sir Ddinbych]].
 
Saif y castell ar gopa mynydd uwchlaw dyffryn [[Afon Dyfrdwy]] (maint yr safle: tua 1.5ha). [[Clawdd]] a [[ffos]] wedi eu hadeiladu yn [[Oes yr Haearn]] yw'r unig olion sydd i'w gweld heddiw. Mae'n bosibl bod adeiladau pren yn y bryngaer yn yr [[8fed ganrif]], ond does dim olion ohonynt heddiw. Mae yna ddamcaniaeth fod [[Eliseg]] yn meddianu Castell Dinas Brân yn y cyfnod hwnnw.
 
Adeiladodd tywysogion [[Powys Fadog]] y castell tua diwedd y [[1260au]]. Cafodd ei losgu gan y Cymry yn ystod y rhyfeloedd rhwng [[Llywelyn ap Gruffudd]], [[Tywysog Cymru]] ac [[Edward I o Loegr|Edward I]], brenin LLoegr. Cafodd y castell ei gipio gan [[Henry de Lacey]], iarll [[Lincoln]], yn [[1277]]. Bwriadai Henry de Lacey ailadeiladu'r castell, ond doedd Edward ddim yn cytuno.