Llefelys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Cymeriad o hanes traddodiadol Cymru sy'n frenin ar Ffrainc yn y chwedl ''Cyfranc Lludd a Llefelys'' yw Llefelys (Llefelys fab Beli fyddai ei enw llawn, ond 'Llefelys...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Dywedir fod Llefelys wedi dod yn frenin Ffrainc trwy briodas. Daeth y newyddion i lys Lludd fod brenin Ffrainc wedi marw gan adael un ferch yn etifedd a gaddo'r deyrnas i bwy bynnag a'i phriodai. Â Llefelys a'i frawd drosodd i Ffrainc mewn llynges sy'n llawn o farchogion arfog. Anfonir negesau at dywysogion ac uchelwyr Ffrainc yn gofyn llaw y forwyn; cydsynant ac mae Llefelys yn cael y forwyn a'r deyrnas.
 
Prif ran Llefelys yn y chwedl yw fel cynghorydd doeth i'w frawd hŷn. I geisio ei gyngor mae Lludd yn cychwyn am Ffrainc mewn llynges a daw llynges fawr ei farwdfrawd yn ei erbyn. Yng nghanol y môr, rhwng y ddwy lynges, mae'r brodyr yn cyfarfod. Am na fedrant siarad yn agored rhag ofn i'r [[Coraniaid]], y gyntaf o'r Tair Gormes, eu clywed, defnyddia Llefelys gorn hir i siarad a'i frawd. Ond mae "cythraul" (un o'r Coraniaid efallai) yn y corn yn troi geiriau'r brodyr yn atgas. Llwydda Llefelys i gael gwared ohono trwy olchi tu mewn y corn gyda gwin. Yna mae'n rhoi cyngor manwl i Ludd a hefyd rhyw bryfed arbennig sydd i'w briwo mewn dŵr i'w dywallt ar y Coraniaid a'u difetha.
 
Ar ôl hynny dychwelodd Llefelys i Ffrainc lle rheolodd "yn brudd, ac yn ddoeth, ac yn ddedwydd" am weddill ei oes.