Daniel Silvan Evans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cat
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Offeiriad, geiriadurwr a bardd oedd '''Daniel Silvan Evans''' ([[11 Ionawr]] [[1818]] -[[13 Ebrill]] [[1903]]).
 
Ganed ef yn [[Llanarth]], [[Ceredigion]], yn fab i Silvanus a Sarah Evans. Wedi cyfnod yn ysgol Neuadd-lwyd, dechreuodd bregethu gyda'r Annibynwyr ac yn 1840 aeth i Goleg yr Annibynwyr yn [[Aberhonddu]] am gyfnod byr, cyn gweithio fel athro ysgol. Ymunodd â'r Eglwys, ac aeth i Goleg Dewi Sant, [[Llanbedr Pont Steffan]] yn 1845-6, gan ddod yn ddarlithydd yn y Gymraeg yno yn 1847. Yn [[1848]] daeth yn gurad [[Llandegwning]], ac ordeiniwyd ef yn offeiriad yn [[1849]].