Daniel Silvan Evans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Ganed ef yn [[Llanarth (Ceredigion)|Llanarth]], [[Ceredigion]], yn fab i Silvanus a Sarah Evans. Wedi cyfnod yn ysgol Neuadd-lwyd, dechreuodd bregethu gyda'r Annibynwyr ac yn 1840 aeth i Goleg yr Annibynwyr yn [[Aberhonddu]] am gyfnod byr, cyn gweithio fel athro ysgol. Ymunodd â'r Eglwys, ac aeth i Goleg Dewi Sant, [[Llanbedr Pont Steffan]] yn 1845-6, gan ddod yn ddarlithydd yn y Gymraeg yno yn 1847. Yn [[1848]] daeth yn gurad [[Llandegwning]], ac ordeiniwyd ef yn offeiriad yn [[1849]].
 
Dechreuodd gyhoeddi ''An English and Welsh Dictionary'' yn [[1847]], gan orffen y gyfrol gyntaf yn [[1852]] a chyfrol 2 yn [[1858]]. Bu'n olygydd ''[[Y Brython]]'' o 1858 i 1860. Bu'n gurad [[Llangian]] o [[1852]] hyd [[1862]], cyn cael ei benodi yn ficer [[Llanymawddwy]], ac yn 1876 symudodd i fywoliaeth [[Llanwrin]]. Parhaodd i weithio ar ei Eiriadur, a chyhoeddwyd y gyfrol cyntaf, hyd y llythyren C, erbyn 1893 gyda chymorth ariannol [[Augusta Hall, Arglwyddes Llanover|Arglwyddes LlanoferLlanover]]. Ni allodd orffen ei eiriadur; cyhoeddwyd y pumed rhan, yr olaf, hyd at y llythyren E, wedi ei farw.