Thomas Iorwerth Ellis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
addysgydd ac awdur
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 18:25, 1 Chwefror 2008
Awdur Cymraeg, darlithydd a phrifathro, oedd Thomas Iorwerth Ellis a ysgrifennai dan yr enw T. I. Ellis (1899, Llundain - 1970). Roedd yn fab i'r gwleidydd adnabyddus Thomas Edward Ellis.
Cafodd yrfa hir ym myd addysg fel darlithydd yn y Clasuron ac fel prifathro ysgol sir y Fflint yn Y Rhyl. Bu'n ysgrifennydd Undeb Cymru Fydd (1941-1967). Gwasanaethodd hefyd am gyfnodau hir ar bywllgorau sefydliadau fel Prifysgol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Cyfranodd nifer o erthyglau ar bynciau llenyddol, diwylliannol a gwleidyddol i gylchgronau Cymreig a chwe chyfrol i'r gyfres boblogaidd Crwydro Cymru (Llyfrau'r Dryw). Cyhoeddodd hefyd gofiant i'w dad mewn dwy gyfrol a chasgliad o ysgrifau.
Llyfryddiaeth
- Crwydro Ceredigion
- Crwydro Maldwyn
- Crwydro Meirionnydd
- Crwydro Mynwy
- Crwydro Sir y Fflint
Eraill:
- Cofiant T. E. Ellis (1944, 1948)
- Ym Mêr fy Esgyrn (1955). Ysgrifau.