Amwythig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 33:
Codwyd castell ar y safle gan y [[Normaniaid]] yn 1070. Ymwelodd [[Gerallt Gymro]] ag Amwythig yn ystod ei [[Hanes y Daith Trwy Gymru|daith trwy Gymru]] yn 1188. Cipiwyd Amwythig gan [[Llywelyn Fawr|Lywelyn Fawr]] yn 1215, ac eto yn 1234.
 
Ar 28 Mehefin 1283 galwodd [[Edward I o Loegr]] ei [[senedd]] i gyfarfod yn Amwythig i farnu [[Dafydd ap Gruffudd]], [[Tywysog Cymru]] a brawd [[Llywelyn Ein Llyw Olaf]]. Ar 30 Medi dedfrydwyd Dafydd i farwolaeth am deyrnfradwriaeth. Cafodd ei ddienyddio yn Amwythig ar 3 Hydref trwy ei [[Crogi, diberfeddu a chwarterichwarteru|grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru]].
 
Mae'r dref yn enwog am ei [[ysgol ramadeg]] i fechgyn a agorodd yn 1552; mae'r gwyddonydd [[Charles Darwin]] a'r bardd Syr [[Philip Sydney]] yn gyn-ddisgyblion. Hi oedd yr unig le lle ceid [[Gorsaf reilffordd Amwythig|gwasanaeth trên uniongyrchol]] o dde-ddwyrain,, de-orllewin, canolbarth a Gogledd Cymru.