Llywelyn Bren: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Llyfryddiaeth: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Llinell 6:
Roedd Llywelyn wedi bod ar delerau da gyda'r arglwydd [[Normaniaid|Normanaidd]] lleol [[Gilbert de Clare]] ond pan fu farw Gilbert cymerodd [[Pain de Turberville]], arglwydd [[Castell Coety|Coety]], drosodd a dechreuodd ymddwyn yn drahaus. Cwynodd Llywelyn i [[Edward II, brenin Lloegr]], ond heb gael boddlonrwydd gan y brenin diystyriol hwnnw. Aeth pethau o ddrwg i waeth a chododd Llywelyn a'r Cymry lleol mewn gwrthryfel ym mlaenau [[Morgannwg]]. Ni pharodd y gwrthryfel am hir gan fod brenin Lloegr a rhai o arglwyddi'r [[Y Mers|Mers]] yn anfon nifer o filwyr i Forgannwg i'w gorchfygu.
 
Cymerwyd Llywelyn Bren yn garcharor i [[Tŵr Llundain|Dŵr Llundain]] lle cafodd ei ddeddfrydu i farwolaeth ac oddi yno cafodd ei ddwyn i [[Caerdydd|Gaerdydd]] a'i ddienyddio yn y modd [[Crogi, diberfeddu a chwarteru|erchyll arferol]] gan Goron Lloegr yn achos "teyrnfradwyr".
 
Roedd Llywelyn yn ŵr diwylliedig a deallus. Roedd yn hoff iawn o [[Llenyddiaeth Gymraeg|lenyddiaeth Gymraeg]] a [[Llenyddiaeth Ffrangeg|Ffrangeg]], yn perchen [[Llawysgrifau Cymreig|llawysgrifau]] yn y ddwy iaith honno ac yn noddi'r [[Beirdd yr Uchelwyr|beirdd]]. Yn ôl traddodiad roedd ganddo blasdy bychan yn [[Eglwys Ilan]], yng nghantref Senghennydd.