Crogi, diberfeddu a chwarteru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 33:
 
Er bod pob un o elfennau’r gosb wedi eu defnyddio yn flaenorol ar gyfer troseddwyr, dyfeisiwyd yr union drefn uchod er mwyn dienyddio'r tywysog [[Dafydd ap Gruffudd]] ar ôl iddo droi yn erbyn y brenin [[Edward I, brenin Lloegr|Edward I]] o Loegr a chyhoeddi ei hun yn [[Tywysog Cymru|Dywysog Cymru]] ac Arglwydd Eryri. Gwylltiwyd Edward gymaint gan wrthryfel Dafydd nes iddo fynnu cosb nofel<ref>[http://www.historyandheadlines.com/the-death-of-dafydd-ap-gruffydd-3-october-1283/ History Headlines The First Nobleman Hung, Drawn and Quartered]
</ref>. Felly, yn dilyn ei ddal a'i roi ar brawf ym 1283, am ei frad cafodd ei lusgo gan geffyl i'w le dienyddio. Fe'i cosbwyd fel a ganlyn: am ladd uchelwyr Lloegr cafodd hanner ei grogi. Am ladd uchelwyr ar ŵyl sanctaidd y Pasg cafodd ei ddiberfeddu gan losgi ei berfeddion o flaen ei lygaid. Am gynllwynio i ladd y brenin mewn gwahanol rannau o'r deyrnas cafodd ei gorff ei chwarteru a'u danfon i bedair wahanol ddinasoeddddinas yn [[Lloegr]] a gosodwyd ei ben ar ben [[Tŵr Llundain|Tŵr Llundain.]]<ref>Bellamy, John (2004), The Law of Treason in England in the Later Middle Ages (Reprinted ed.), Cambridge: Cambridge University Press, ISBN 0-521-52638-8</ref>
 
Wedi lladd Dafydd ap Gruffudd defnyddiwyd crogi, diberfeddu a chwarteru fel y gosb am bob achos o deyrnfradwriaeth. Ymysg y bobl amlwg i ddioddef y gosb roedd: