Crogi, diberfeddu a chwarteru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 55:
 
== Diwygio’r ddeddf teyrnfradwriaeth ==
Cyn 1351 roedd y diffyniad o deyrnfradwriaeth yn amwys. Roedd y cyhuddiad o frad yn cael ei selio ar y disgwyliad y byddai pob person yn deyrngar i’w sofran ar bob pwnc, a mater i’r brenin a’i barnwyr oedd pennu os oedd deyrngarwchy teyrngarwch honno wedi ei dorri. Bu ustusiaid [[Edward III, brenin Lloegr|Edward III]] yn or-selog wrth ddehongu pa weithgareddau oedd i’w hystyried yn frad. Bu galwadau [[Senedd Lloegr|seneddol]] i egluro'r gyfraith. Mewn ymateb i’r galwadau cyflwynodd Edward ''[[Ddeddf Brad 1351]]''. Gwnaeth y gyfraith newydd gulhau’r diffiniad o frad nag oedd wedi bodoli o'r blaen ac yn rhannu'r hen drosedd [[Ffiwdaliaeth|ffiwdal]] i ddau ddosbarth’ teyrnfradwriaeth a mân frad. Roedd teyrnfradwriaeth yn cael ei gyfyngu i ymdrechion i danseilio awdurdod y brenin trwy ymosod ar ei statws fel sofran a bygwth ei hawl i lywodraethu. Roedd mân frad cyfeirio at y lladd meistr (neu arglwydd) gan ei was, gŵr gan ei wraig, neu [[esgob]] gan ei glerigwr. Byddai dynion a chafwyd yn euog o fân frad yn cael eu llusgo a'u crogi, tra byddai menywod yn cael ei llosgi am y ddwy drosedd.<ref>[https://www.theguardian.com/law/2014/oct/17/treason-act-facts-british-extremists-iraq-syria-isis The Guardian 17/10/2014 Treason Act: the facts]</ref>
 
Pasiwyd Deddf Brad newydd yn y Senedd ym 1790 wnaeth cyfnewid y gosb i grogi yn hytrach na llosgi i fenywod<ref>[http://www.legislation.gov.uk/apgb/Geo3/30/48/contents Treason Act 1790 (repealed 30.9.1998)]</ref>. Pasiwyd Deddf Brad arall ym 1814 lle fyddai dynion yn cael eu llusgo a’u crogi hyd at farwolaeth cyn darnio eu cyrff<ref>[https://www.revolvy.com/main/index.php?s=Treason%20Act%201814&item_type=topic Treason Act 1814]</ref>. O dan ''[[Deddf Troseddau yn Erbyn Person 1828|Ddeddf Troseddau yn Erbyn Person 1828]]'' cafwyd gwared â’r gwahaniaeth rhwng mân frad a [[Llofruddiaeth|llofruddiaethau]] eraill.