Martin McGuinness: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up using AWB
Formatting
Llinell 8:
Bu'n [[Aelod Seneddol]] dros etholaeth Canol Ulster, hen sedd [[Bernadette Devlin McAliskey]], dros [[Sinn Féin]], rhwng 1997 a 2013, ond yn unol a pholisi ei blaid, ni lanwodd ei sedd yn [[San Steffan]]. Cafodd ei ethol i Gynulliad Gogledd Iwerddon dros Ganol Ulster yn 1998 a chynrychiolodd yr etholoaeth honno yn y Cynulliad tan 2016. Yn 2016 safodd dros etholaeth Foyle, ei etholaeth enedigol - a bu'n cynrychioli'r etholaeth honno hyd at ei farwrolaeth yn 2017.
 
Cyn troi'n wleidydd bu'n un o arweinyddion yr [[IRA]]<ref>{{eicon en}} [http://news.bbc.co.uk/1/hi/northern_ireland/1303355.stm BBC Profile] BBC News]</ref>. Yn dilyn [[Cytundeb St Andrews]] rhwng y pleidiau yng Ngogledd Iwerddon, ac etholiad [[Cynulliad Gogledd Iwerddon]] yn 2007, daeth yn Ddirprwy Brif Weinidog ar [[8 Mai]] 2007. Bu'n gyfrifol am addysg yng Ngogledd Iwerddon rhwng 1999 a 2002.
 
== Gweithgareddau'r Fyddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon ==
([[Byddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon]] ydy'r ''Provisional IRA'')
 
Ymunodd McGuinness â'r Fyddin Weriniaethol oddeutu 1970, yn ddim ond 20 oed. Erbyn Gwanwyn 1972, yn 21 oed, roedd yn ddirprwy arweinydd yr IRA yn Derry - a hynny dros gyfnod '[[Bloody Sunday Derry 1972|Bloody Sunday]]'.<ref>{{eicon en}} [http://news.bbc.co.uk/1/hi/northern_ireland/1308899.stm McGuinness confirms IRA role] BBC News website, 2 May 2001</ref> Cafwyd datganiad yn ystod [[Ymchwiliad Savile]] mai McGuinness oedd "wedi darparu dyfeisiau ffrwydro yn ystod digwyddiad 'Bloody Sunday'" pan laddwyd 14 o brotestwyr gan filwyr Lloegr. Honodd Paddy Ward ei fod yn arweinydd y [[Fianna Éireann|Fianna]] ar yr amser honno, sef adain ieuenctid yr IRA yn 1972. Mewn ymateb i'r honiadau hyn, dywedodd McGuinness fod yr honiadau'n "ffantasiau", a datganodd Gery O'Hara, cynghorydd gyda'r Sinn Féin, mai ef ac nid Ward oedd arweinydd y Fianna yr adeg honno.<ref>{{eicon en}} [http://news.scotsman.com/topics.cfm?tid=628&id=1161662003 McGuinness yn cael ei enwi fel cyflenwr bomiau] gan John Innes, The Scotsman, 21 Hydref 2003</ref>
 
==Ymddeol o Gynulliad Gogledd Iwerddon ==