Hengist: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Cyfeirir at rywun o'r enw Hengist yn y gerdd ''[[Beowulf]]'', ond ni ellir profi cysylltiad â Hengist, brawd Hors.
 
Yn y rhestrau o freninoeddfrenhinoedd [[Caint]], enwir Hengist yn sefydlydd y llinach ac yn dad i Octha ac yn hendaid i [[Aethelbert]] ac [[Egbert]] ac eraill.
 
Ceir hanes Hengist a'i frawd yn ymsefydlu ym Mhrydain yn amser [[Gwrtheyrn]] a chyflafan [[Brad y Cyllyll Hirion]] yn ''[[Historia Brittonum]]'' [[Nennius]] lle fe'u disgrifir fel disgynyddion y duw [[Woden]].<ref>John Morris (gol.), ''Nennius'' (Phillimore, 1980), pennod 31 ''et. seq.''.</ref> Yn ôl Nennius gwahoddodd Hengist Wrtheyrn a'i bendefigion i wledd yn ei lys. Ond ystryw oedd y cyfan i lofruddio'r [[Brythoniaid]] er mwyn meddianu [[Ynys Prydain]]. Cytunodd Gwrtheyrn, dall yn ei gariad at Ronwen, ond ar yr amod fod pawb yn ddiarfog yn y wledd. Ar air penodedig gan Hengist (''Nemet eour Saxes!'' "Gafaelwch yn eich cyllyll!"), tynnodd y Saeson, oedd yn eistedd bob yn ail â'r Brythoniaid wrth y byrddau, eu cyllyll hirion a lladd tri chant o'r Brythoniaid. Dim ond un pendefig a lwyddodd i ddianc o'r gyflafan, sef [[Eidol]], Iarll [[Caerloyw]]. Ni fu dewis gan Wrtheyrn wedyn ond ildio de Prydain i gyd i'r Sacsoniaid a ffoi a gweddill ei bobl i Gymru. Ceir ymhelaethiad lliwgar ar yr hanes gan [[Sieffre o Fynwy]] yn ei ''[[Historia Regum Britanniae]]''.