Gerry Adams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
delwedd
Llinell 1:
[[Delwedd:Gerry Adams SinnEaster FéinLily Badge.jpg|bawd|200px|Gerry Adams yn 20072008]]
 
Gwleidydd [[Gwyddelod|Gwyddelig]] a llywydd plaid [[Sinn Féin]] yw '''Gerard "Gerry" Adams''' ([[Gwyddeleg]]: ''Gearóid Mac Ádhaimh'') (ganed [[6 Hydref]], [[1948]]).
 
Ganed Gerry Adams yn y [[Falls Road]] yng ngorllewin [[Belffast]], i deulu o [[cenedlaetholdeb Gwyddelig|genedlaetholwyr Gwyddelig]]. Wedi gadael yr ysgol, ymunodd â Sinn Féin a [[Fianna Éireann]] yn 1964. Dechreuodd y llywodraeth Brydeinig garcharu cenedlaetholwyr Gwyddelig heb achos llys yn Awst [[1971]], ac ym mis Mawrth [[1972]] carcharwyd Adams. Gollyngwyd ef yn rhydd ym mis Mehefin i gymryd rhan mewn trafodaethau cyfrinachol yn Llundain, ond ym mis Gorffennaf [[1973]] carcharwyd ef eto yn [[Maze (carchar)|Long Kesh]].
[[Delwedd:Gerry Adams Sinn Féin.jpg|bawd|200px|chwith|Gerry Adams yn 2007]]
 
Yn [[1983]] etholwyd ef yn llywydd Sinn Féin, ac fe'i etholwyd yn [[Aelod Seneddol]] dros y blaid, y cyntaf ers y 1950au. Yn unol â pholisi ei blaid, ni chymerodd ei sedd yn San Steffan. Ar [[14 Mawrth]] [[1984]], clwyfwyd ef yn ddifrifol pan geisiodd rhai o aelodau'r [[UFF]] ei ladd. Collodd ei sedd yn San Steffan i [[Joe Hendron]] o'r [[SDLP]] yn etholiad [[1992]], ond enillodd hi yn ôl yn [[1997]].