Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Matthew de Englefield"

Ychwanegwyd 39 beit ,  14 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(Tudalen newydd: Esgob Bangor ganol y 14eg ganrif oedd '''Matthew de Englefield''' (tua 1290 - 1350). Mae'n bosibl fod 'Mathew Englefield' i'w uniaethu â '''Madog ab Iorwerth ap Rhir...)
 
BNo edit summary
[[Esgob Bangor]] ganol y [[14eg ganrif]] oedd '''Matthew de Englefield''' (tua [[1290]] - [[13501357]]). Mae'n bosibl fod 'Mathew Englefield' i'w uniaethu â '''Madog ab Iorwerth ap Rhirid''' o [[Tegeingl|Degeingl]].
 
Os cywir yr uniaethiad hwnnw, sy'n dra thebygol, yr oedd yn frawd i'r uchelwr Rhotbert ab Iorwerth o Degeingl ac yn perthyn i deulu a olreiniai ei dras yn ôl i Ednywain Bendaw II, o linach brenhinoedd [[Teyrnas Powys]].
 
Cafodd Matthew/Madog ei gysegru'nethol yn Esgob Bangor ar [[25 Chwefror]] [[1327]] a'i gysegru ar [[12 Mehefin]] [[1328]]. Ni chofnodir ei ymddeoliad na'i farwolaeth, ond cafodd ei olynu yn [[1357]] gan [[Thomas Ringstede]].
 
Mae un o dwy gerdd o waith sydd wedi goroesi o waith y bardd [[Gronw Gyriog]] yn [[awdl]] foliant i un Madog ab Iorwerth o Goedmynydd. Mae'n debygol mai Matthew de Englefield/Madog ab Iorwerth yw'r Madog hwn, ac os felly gellid cynnig ei dyddio i'r blynyddoedd ar ôl 1328. Mae'n debygol hefyd iddi gael ei chanu gan y bardd yn llys yr esgob ym [[Bangor|Mangor]]. Molir Madog am ei haelioni eithriadol yn y gerdd, ac er bod hynny yn nodwedd gyffredin yn y canu mawl fe all fod yn wir yn achos Madog. Cwyna ei olynydd Thomas Ringsted fod Madog wedi esgeuluso adeiladau'r eglwys gan gyfeirio at "''waste and dilapidations''". Efallai mai cyfeirio at fywyd moethus yr esgob yn ei lys yn cadw bwrdd agored a gwahodd beirdd sydd yma.