Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Matthew de Englefield"

Ychwanegwyd 53 beit ,  14 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
BNo edit summary
BNo edit summary
Cafodd Matthew/Madog ei ethol yn Esgob Bangor ar [[25 Chwefror]] [[1327]] a'i gysegru ar [[12 Mehefin]] [[1328]]. Ni chofnodir ei ymddeoliad na'i farwolaeth, ond cafodd ei olynu yn [[1357]] gan [[Thomas Ringstede]].
 
Mae un o dwy gerdd o waith sydd wedi goroesi o waith y bardd [[Gronw Gyriog]] yn [[awdl]] foliant i un Madog ab Iorwerth o Goedmynydd. Mae'n debygol mai Matthew de Englefield/Madog ab Iorwerth yw'r Madog hwn, ac os felly gellid cynnig ei dyddio i'r blynyddoedd ar ôl 1328. Mae'n debygol hefyd iddi gael ei chanu gan y bardd yn llys yr esgob ym [[Bangor|Mangor]]. Molir Madog am ei haelioni eithriadol yn y gerdd, fel "Dôr ac iôr Bangor" "heilwin" (hael a'i win), ac er bod hynny yn nodwedd gyffredin yn y canu mawl fe all fod yn wir yn achos Madog. Cwyna ei olynydd Thomas RingstedRingstede fod Madog wedi esgeuluso adeiladau'r eglwys gan gyfeirio at "''waste and dilapidations''". Efallai mai cyfeirio at fywyd moethus yr esgob yn ei lys yn cadw bwrdd agored a gwahodd beirdd sydd yma.
 
==Cyfeiriadau==