Llydaweg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Modifying: eu:Bretainiera
Dim crynodeb golygu
Llinell 14:
 
==Llydaweg heddiw==
Yn [[1999]], roedd tua '''257 000 o bobl''' yn medru Llydaweg yn ôl yr INSEE (Sefydliad gwybodaeth ystadegol ac economaidd Ffrainc), sef un rhan o bump o boblogaeth Llydaw Isel. Roedd cefn gwlad [[Breizh Izel]] yn uniaith Lydaweg tan yr [[Ail Ryfel Byd]]. Oddi ar y rhyfel ychydig o bobl ifanc a fagwyd yn Llydaweg. Ar waetha'r ffaith nad oedd mewnlifiad yn digwydd yr adeg honno ymddengys i'r rhan fwyaf o deuluoedd Llywdaweg benderfynu fagu eu plant yn uniaith Ffrangeg o tua 1946-1950 ymlaen. Mae nifer y siaradwyr iaith gyntaf ar fin cwympo i lefel isel gyda cholli'r genhedlaeth 70 - 80 oed dros y degawdau nesaf yma, sef cnewyllyn y siaradwyr iaith gyntaf. Ar hyn o bryd prin bod 2% o blant Llydaw Isel yn medru'r Llydaweg a'r rhan fwyaf ohonynt oherwydd ymdrech ysgolion Llydaweg [[Diwan]]. Rhyw deg mil o blant sydd yn cael eu dysgu yr ysgolion hyn, ac mae'r ffigwr yn codi gan bymtheg y cant pob blwyddyn. Mae yna gyfundrefn Divyezh (dwyeithog cyhoeddus)/Dihun (dwyieithog preifat). Mae bwrdd yr iaith Lydaweg (Ofis ar Brezhoneg) yn gweithio ar hyn o bryd i achub yr iaith ond mae'r iaith yn parhau i ddiflannu yn fuan. Mae llywodraeth Ffrainc yn parhau gyda ei bolisi dinistrio popeth llydaweg a llydaweg, ond nawr, mewn dull llai ffyrnig. Mae rhai o'r Llydawiaid yn cychwyn rhoi y Llydaweg i fyny i ddefnyddio'r Gymraeg (Mae'n bosibl derbyn S4C a Radio Cymru gan disgl loeren yn Llydaw, ar Astra 2B)
 
==Dim statws==