Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Sefnyn"

Ychwanegwyd 63 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
B
Ychydig a wyddys am Sefnyn ar wahân i dystiolaeth ei gerddi ei hun. Mae'r cerddi hynny, tair [[awdl]] i noddwyr o Fôn, yn anodd i'w dyddio. Ni wyddom pryd cafodd ei eni, ond ar sail un o'i awdlau credir iddo farw yn y 1380au. Mewn rhestr o feirdd canoloesol yn llaw [[William Salesbury]], a ysgrifenwyd tua 1574, dywedir fod Sefnyn "o [[Llanbabo|lan Pabo]] ym Môn". Gwyddys i Wilym ap Sefnyn ddal tir ym mhlwyf [[Llandyfrydog]] hefyd, ac mae hynny a'r ffaith fod tair awdl Sefnyn i bobl o Fôn yn awgrymu'n gryf ei fod yn frodor o'r ynys. Awgrymir gan gyfeiriad yn ei awdl i [[Goronwy Fychan]], un o Duduriaid Môn, ei fod wedi canu'r gerdd honno yn [[Arllechwedd Uchaf]].
 
Dim ond tair [[awdl]] o waith y bardd sydd wedi goroesi, ond gellir derbyn fod hynny'n ganran bychan iawn o'i waith a'i fod yn fardd o fri yn ei amser. Canodd ddwy awdl foliant, un i Angharad wraig Dafydd Fychan o Drehwfa a Threfeilir, a'r llall i [[Goronwy Fychan ap Tudur]] o [[Penmynydd|Benmynydd]] a'i wraig Myfanwy. Yn ogystal ceir awdl-[[marwnad|farwnad]] ganddo i'r bardd [[Iorwerth ab y Cyriog]], fab y bardd [[Gronw Gyriog]]. Mae'r nodyn amlwg o golled bersonol a geir yn y gerdd yn awgrymu'n gryf fod y ddau fardd yn gyfeillion. Mae'n bosibl hefyd mai Iorwerth oedd [[athro barddol]] Sefnyn.
 
Y brif ffynhonnell am waith Sefnyn yw'r adran farddoniaeth yn [[Llyfr Coch Hergest]]: mae pob testun diweddarach yn deillio o'r llawysgrif honno.