Catatonia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
 
Cyfarfodd Cerys Matthews â Roberts yng [[Caerdydd|Nghaerydd]] y tro cyntaf, pan oedd Cerys yn [[bysgio]], dechreuont ysgrifennu canaon gyda'i gilydd yn 1992. Pedair mlynedd yn ddiweddarach roeddent mewn perthynas â'i gilydd, â sawl agwedd o'r berthynas yn dod i'r amlwg yn eu caneuon ar y pryd <ref>http://arts.guardian.co.uk/features/story/0,,958691,00.html</ref>.
 
Daeth y cwpl ar draws y gair [[catatonia]], yn credu iddo ystyr mwynhad eithafol a chwsg, enw gwreiddiol y band oedd 'Sweet Catatonia'. Wedi darganfod gwir ystyr y gair (h.e. symptom seiciatreg o rai anhwyldeb meddyliol), cafwyd wared ar y gair 'sweet'. <ref>http://www.amiright.com/names/origins/c.shtml</ref>
 
Ceisiodd Catatonia wneud eu caneuon fod ar gael i gynulleidfa mor eang a phosib, ond ar yr un adeg, doedd dim sildeb ynglyn a cheisio syniadau gwreiddiol, arbrofol, ac weithiau hyd yn oed, synau digon sgrafellog. Y canlyniad oedd sain bachog [[Cerddoriaeth bop|bop]] a roc ''indie'' tanddaearol.
 
Adnabyddir eu cerddoriaeth drwy eu geiriau clyfar a llais deiniadol a rhathellog Cerys Matthews, a drodd hi'n ryw fath o symbol rhywiol. Roedd acen gref Gymraeg Cerys hefyd yn amlwg.
 
Roedd y band, y ''PR'', ei cherddoriaeth, a'i geiriau yn Gymraeg a balch ohonni. Mae cytgan y sengl ddwyieithog ''International Velvet'' yn datgan "Every day when I wake up, I thank the Lord I'm Welsh." Mynnent na ddylid cymryd hyn yn rhy ddifrifol, gan eu bod yn credu mewn bod yn rhyngwladol yn hytrach na chenedlaethol, a dyn'r rheswm drost teitl yr albym ''[[International Velvet]]'' a ryddhawyd yn [[1998]]. Dim ond pump sengl Gymraeg/dwyieithog ryddhaodd Catatonio, ac ''International Velvet'' oedd yr unig un i gael ei gynnwys mewn albym. Ymddangosodd y lleill i gyd ar ''[[Ochr-B|Ochrau B]]'' a chasgliadau [[EP]].
 
Wedi dod yn enwog, roed dyn amlwg nad oedd Cerys yn ymdopi yn dda iawn gyda'r pwysau cysylltiedig, roed hi'n poeni a a dioddef o flinder nerfus a achosodd i sawl taith cyngherddol gael ei ohurio, a dirywiad yn y berthynas rhwng aelodau'r band. Ar [[21 Medi]], [[2001]], ar ôl rhyddhau'r albym ''[[Paper Scissors Stone]]'', gwahanodd y band yn swyddogol.
 
Rhyddhaodd Cerys ei albym gyntaf solo, ''Cockahoop'', yn mis Mai [[2003]]. Rhyddhawyd ei hail albym ''Never Said Goodbye'' yn mis Awst [[2006]].
 
==Disgograffi==
Mae'r rhifau a ddengys isod yn dangos eu lleoliad uchaf ar siartiau'r [[Deyrnas Unedig]].
 
===Albymau===
* ''[[The Sublime Magic of Catatonia]]'', 1995
* ''[[Way Beyond Blue]]'', 1996, #32, Gwerthiant: 40,000
* ''[[Tourist]]'', 1996,
* ''[[International Velvet]]'', 1998, #1, Gwerthiant: 900,000 (3x platinum)
* ''The Crai-EPs 1993/1994'', 1998
* ''[[Equally Cursed and Blessed]]'', 1999, #1, Gwerthiant: 300,000 (platinum)
* ''[[Paper Scissors Stone]]'', 2001, #6, Gwerthiant:60,000 (arian)
* ''Greatest Hits'', 2002, #24
 
===Seglau/EP===
* "For Tinkerbell" (EP) - 1993
* "Hooked" (EP) - 1994
* "Whale" - 1994 (Finyl yn unig)
* "Bleed" - 1995 - #102
* "Christmas '95" - 1995 - Sengl Finyl Fan Club (Ochr-A: "Blow The Millennium, Blow")
* "[[Sweet Catatonia]]" - 1996 - #61
* "[[Lost Cat]]" - 1996 - #41
* "[[You've Got a Lot to Answer For]]" - 1996 - #35
* "Bleed" (re-issued) - 1996 - #46
* "[[I Am The Mob]]" - 1997 - #40
* "[[Mulder and Scully]]" - 1998 - #3
* "[[Road Rage]] - 1998 - #5
* "[[Strange Glue]]" - 1998 - #11
* "[[Game On]]" - 1998 - #33
* "[[Dead From the Waist Down]]" - 1999 - #7
* "[[Londinium]]" - 1999 - #20
* "[[Karaoke Queen]]" - 1999 - #36
* "Storm The Palace" (EP) - 1999
* "[[Stone by Stone]]" - 2001 - #19
 
=== Cydweithredau ===
* ''The Ballad of Tom Jones'' - [[Space]] a Cerys Matthews - 1998 - #4
* ''Baby, It's Cold Outside'' - [[Tom Jones]] a Cerys Matthews - 1999 - #17
 
== Cyfeirnodau ==
<references />
* ''Guinness World Records British Hit Singles'' (Gol David Roberts), 2002, 15fed argraffiad, cyhoeddwyr: [[Guinness World Records]]
 
== Llyfryddiaeth ==
* ''Cerys, Catatonia & The Rise Of Welsh Pop'', Medi 2002, [[David Owens]] (ISBN 0-09-187412-2) (rhestrir weithiau odan y teitl drost-dro tra'n ysgrifennu, ''Catatonia - Enter The Dragon'').
* ''To Hell and Back with Catatonia'', [[1 Mehefin]], 2001, [[Brian Wright]] (ISBN 0-946719-36-5)
 
== Dolenni Allanol ==
* [http://www.welshbands.eu/pastbands/catatonia/] Catatonia ar wefan WelshBands.eu
* [http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/1556250.stm] Newyddion gwahaniad y band
 
[[Category:Cerddoriaeth]]
[[Category:Bandiau Cymreig]]