Yr Hen Ogledd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
Mae'r term '''yr Hen Ogledd''' yn cyfeirio at diriogaeth teyrnasoedd [[Brythoniaid|Brythonaidd]] yr ardal sydd erbyn heddiw yn rhan o ogledd [[Lloegr]] a de'r [[Yr Alban|Alban]] yn y cyfnod yn dilyn ymadawiad y [[Rhufeiniaid]], sef o tua'r [[5ed ganrif|bumed]] i'r [[7fed ganrif|seithfed ganrif]]. O'r Hen Ogledd daeth y [[llenyddiaeth Gymraeg]] gynharaf, cerddi [[Arwr|arwrol]] gan feirdd [[yr Hengerdd]] am y brwydro rhwng teyrnasoedd y Brythoniaid a llwythau'r [[Eingl-Sacsoniaid]] oedd yn ceisio goresgyn y Brythoniaid a meddianu eu tir. O'r Hen Ogledd daeth [[Cunedda Wledig]] a'i ddilynwyr hefyd, sefydlwyr [[teyrnas Gwynedd]].
 
Gellir diffinio'r Hen Ogledd fel yr Alban i'r de o linell ddychymygol rhwng cyffiniau [[Stirling]] a [[Loch Lomond]] a'r siroedd Seisnig presennol [[Cumbria]], [[Swydd Gaerhirfyn]], [[Swydd Durham]], [[Northumberland]], [[Swydd Efrog]] a [[Humberside]]. Mae hyn yn diriogaeth ehangach nag yw Cymru heddiw. Mae'n bosibl fod teyrnasoedd yr Hen Ogledd (trwy [[Elfed]]) yn ymestyn mor bell i'r de ag ardal [[Sir Gaer]] heddiw. Cafodd teyrnasoedd yr Hen Ogledd eu gwahanu oddi wrth Gymru gyda [[Brwydr Caer]] yn [[615]]. Ffurf ar y [[Brythoneg|Frythoneg]] a droes yn [[Cymraeg Cynnar|Gymraeg Cynnar]] oedd iaith trigolion yr Hen Ogledd: [[Cymbreg]] yw'r enw a ddefnyddir weithiau i'w disgrifio a cheir olion ohoni mewn enwau lleoedd yn Cumbria.
 
'[[Bonedd Gwŷr y Gogledd‎|Gwŷr y Gogledd]]' yw'r enw tradodiadol am bobl yr Hen Ogledd. Roeddent yn ddisgynyddion i lwythau [[Celtiaid|Celtaidd]] y [[Votadini]], [[Selgovai]], [[Novantai]] a'r [[Dumnonii]] (yn ne'r Alban) a'r [[Brigantes]] i'r de o [[Mur Hadrian|Fur Hadrian]].