Samui: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Eldegales (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Ynys oddi ar arfordir dwyreiniol Gwlad Thai sy'n agos i dref Surat Thani ar y tir mawr yw Samui. ==Hanes== Mae’n debyg bod trigiolion cyntaf yr ynys wedi mynd yno tua phymtheg...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 05:33, 9 Chwefror 2008

Ynys oddi ar arfordir dwyreiniol Gwlad Thai sy'n agos i dref Surat Thani ar y tir mawr yw Samui.

Hanes

Mae’n debyg bod trigiolion cyntaf yr ynys wedi mynd yno tua phymtheg canrif yn ôl. Credir mai pysgotwyr o benrhyn Malay a De Tsieina oeddynt. Mae’r ynys yn ymddangos ar fapiau Brenhinllin Ming sy’n dyddio’n ôl i 1687 o dan yr enw Pulo Cornam. Mae’r enw Samui’n ddirgelwch ynddo’i hun. Efallai mai estyniad ar enw coeden frodorol i’r ynys, mui, ydyw, neu ffurf amhur o’r gair Tsieinieg Saboey sy’n golygu “hafan ddiogel”.

Tan yn hwyr yn yr ugeinfed ganrif, cymuned hunan-gynhaliol ynysig oedd Samui, heb fawr ddim o gysylltiadau â gweddill Gwlad Thai ar y tir mawr. Doedd dim ffyrdd ar yr ynys tan y 1970au cynnar a chymerai’r daith 15km o hyd o un ochr o’r ynys I’r llall ddiwrnod cyfan o gerdded trwy’r siwngl mynyddig yng nghanol yr ynys.

Erbyn hyn, mae poblogaeth o tua 47000 o bobl ar yr ynys. Ei phrif ffynonnellau incwm yw’r diwydiant twristiaeth, yn ogystal ag allforio cnau cocos a rhwber. Mae maes awyr rhyngwladol bellach ar yr ynys a chanddo deithiau awyr ar yr awr i Bangkok a nifer o gysylltiadau â meysydd awyr eraill yng Ngwlad Thai ac yn rhanbarth De-ddwyrain Asia. Er bod yr ynys yn hybu delwedd o baradwys heb ei ail, mae’r twf economaidd wedi dod â nid yn unig llewyrch, ond newidiadau yn amgylchedd a diwylliant yr ynys, sydd wedi creu anghydweld rhwng trigolion lleol a mewnfudwyr o rannau eraill o’r wlad ac o dramor. Bydd llong Cunard MS Queen Victoria (llong i dros ddwy fil o deithwyr) yn angori ar Samui yn ystod môr-daith 2008, sy’n adlewyrchu statws a thwf Samui fel lle gwyliau poblogaidd tu hwnt.