Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Turtur dorchog"

Ychwanegwyd 9 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
gwledydd
BNo edit summary
(gwledydd)
[[file : Tourterelle turque MHNT.jpg|bawd|Ŵy ''Streptopelia decaocto'']]
 
Mae'r '''Durtur Dorchog''' (''Streptopelia decaocto'') yn aderyn sydd â hanes diddorol iawn. Yn wreiddiol yr oedd i'w chael yn y gwledydd rhwng de-ddwyrain [[Ewrop]] a [[Japan]], ond tua dechrau'r [[ugeinfed ganrif]] dechreuodd wladychu ardaloedd newydd. Erbyn diwedd y 1950au yr oedd wedi cyrraedd gwledydd [[Prydain]], ac yn fuan wedyn [[Iwerddon]]. Yn [[Sgandinafia]] mae'n nythu ymhell i'r gogledd erbyn hyn.
 
Ymddengys i'r Durtur Dorchog gyrraedd y [[Bahamas]] trwy ddamwain, ac oddi yno lledaenodd i [[Florida]] ac erbyn hyn i ran helaeth o [[Unol Daleithiau America]]. Un yn ymgartrefu'n hawdd mewn unrhyw leoliad. Nid yw'n [[aderyn mudol]], er y gellir gweld symudiadau weithiau, yn enwedig mewn tywydd oer.