The War of the Worlds: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 10:
Bu sawl dehongliad ar neges ac ystyr y llyfr. Yn sicr, condemniad yw e ar ''hubris'' a hyder gormodol pobl Oes Fictoria, a'u cred mai nhw oedd meistri naturiol [[Daear|y Ddaear]]. At hynny, mae yna gymhariaethau agored gan yr awdur rhwng y ffordd y mae'r Mawrthiaid yn trin pobl [[y Ddaear]] a'r ffordd yr oedd Ewropeaid wedi trin pobloedd eraill y byd. (Mae [[H.G. Wells]] yn sôn yn benodol yn y llyfr am fel y bu Ewropeaid yn gyfrifol am ddileu hil y [[Tasmania|Tasmaniaid]] yn gyfan gwbl o fewn prin bum deng mlynedd).
 
Fe ellir gweld hefyd yn y llyfr ddadl dros hawliau anifeiliaid: wrth ei gael ei hunan ar ei ben ei hunan yng nghefn gwlad [[Surrey]], a'r Mawrthiaid ar ei ôl, mae'r storïwr yn siarad gyda chryn gydymdeimlad am dynged y creaduriaid y mae dynion yn eu hela.
 
== Addasadiau ==
Addaswyd y [[nofel]] yn ddrama [[radio]] yn [[1938]] gan [[Orson Welles]] a'i Gwmni Theatr Mercury. Symudwyd y lleoliad i [[New Jersey]], a chyflwynodd yr actorion y stori mewn dull newyddiadurol, fel pe baent yn adrodd stori hollhollol wir. Mor effeithiol oedd hyn nes bod llawer o bobl yn gwir gredu bod y Mawrthiaid wedi glanio yn [[America]], gan ffoi o'u cartrefi dan fraw.
 
Trowyd The '''War of the Worlds''' yn ffilm yn [[1953]], ond cynhyrchiad eithaf di-fflach oedd hwn, ac iddo neges [[Comiwnyddiaeth|wrth-Gomiwynyddol]] ddiflas o amlwg.