John Josiah Guest: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 24:
Roedd Guest yn flaengar yn ei ddefnydd o'r darganfyddiadau diweddaraf ym meysydd cemeg a pheirianwaith ac yn ymgysylltu â ffigyrau allweddol mewn datblygiad gwyddonol a thechnolegol. Etholwyd ef yn gymrawd o'r Gymdeithas Ddaearegol yn 1818 a'r [[Y Gymdeithas Frenhinol|Gymdeithas Frenhinol]] ym 1830. Ym 1834 daeth yn aelod cyswllt o Sefydliad y Peirianwyr Sifil.
 
Roedd ei ddiddordebau busnes yn cynnwys pyllau glo yn Fforest y Ddena ac ef oedd cadeirydd cyntaf Cwmni Rheilffordd Cwm Taf. Roedd hefyd yn dirfeddiannwr gydag ystadau yn [[Drenewydd yn Notais|Nhrenewydd yn Notais]] a Canford Manor ger [[Wimborne]], [[Swydd Dorset]]<ref>“Guest, Sir (Josiah) John, first baronet (1785–1852),” Angela V. John yn Oxford Dictionary of National Biography, ed. H. C. G. Matthew and Brian Harrison (Oxford: OUP, 2004); online ed., ed. Lawrence Goldman, May 2008, [http://www.oxforddnb.com/view/article/11716] adalwyd 1 Medi, 2015 trwy docyn darllenydd LLG</ref>
 
==Gyrfa Wleidyddol==
Llinell 117:
 
==Marwolaeth==
Bu Syr John yn ddioddef o anhwylder yr arennau am rai blynyddoedd ac wedi ymneilltuo i'w ystâd yn Swydd Dorset fel lle iachach i fyw na Dowlais; ond o deimlo'r diwedd yn dod penderfynodd ei fod am farw yn ei dref enedigol a symudodd i'w hen gartref, Tŷ Dowlais, i wario ei ddyddiau olaf, lle fu farw ar 26 Tachwedd 1852<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/3161074|title=MARWOLAETH SYR J J GUEST AS - Seren Cymru|date=1852-12-09|accessdate=2015-09-01|publisher=William Morgan Evans}}</ref>. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys St Ioan, Dowlais<ref>Find a Grave ''Sir J J Guest'' [http://www.findagrave.com/cgi-bin/fg.cgi?page=gr&GRid=74901303] adalwyd 1 Medi, 2015</ref>
 
==Cyfeiriadau==