Crach Ffinnant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Categori:Owain Glyn Dŵr ayb, replaced: Glyndŵr → Glyn Dŵr (12) using AWB
Llinell 1:
[[Brud]]iwr a [[bardd]] a gysylltir ag [[Owain GlyndŵrGlyn Dŵr]] oedd '''Crach Ffinnant''' (fl. [[1380au]] - [[1400au]]).<ref name="R. Davies, 1995">R. R. Davies, ''The Revolt of Owain GlyndŵrGlyn Dŵr'' (Rhydychen, 1995).</ref>
 
==Bywgraffiad==
[[Enw barddol]] yw Crach Ffinnant ; ni wyddys ei enw personol. Mae'n enghraifft dda o'r llysenwau difrïol a arferid gan nifer o Gymry'r Oesoedd Canol. Ceir cyfeiriad at 'Y Crach' fel enw bardd anhysbys ac mae'n bosibl mai Crach Ffinnant a olygir. Ceir mwy nag un lle o'r enw Ffinnant, e.e. Pont Ffinnant ger [[Dinas Mawddwy]], ond does dim modd dweud fod Crach Ffinnant yn frodor o'r ardal honno, er ei bod yn bosiblrwydd.<ref name="R. Davies, 1995"/>
 
Ychydig o ffeithiau cadarn sydd ar gael amdano. Cofnodir iddo fynd i'r [[Alban]] gyda Owain GlyndŵrGlyn Dŵr yn [[1384]] pan gafodd GlyndŵrGlyn Dŵr a'i frawd [[Tudur ap Gruffudd|Tudur]] eu gwysio gan [[Rhisiart II o Loegr]] i wasanaethu gyda chatrawd o Gymry eraill dan Syr [[Gregory Sais]] yng ngarsiwn [[Berwick]]. Mae'r ail gofnod amdano yn dweud ei fod wrth ochr GlyndŵrGlyn Dŵr pan lawnsiwyd y gwrthryfel ar [[16 Medi]] [[1400]], yng [[Glyndyfrdwy|Nglyndyfrdwy]], [[Meirionnydd]], trwy gyhoeddi GlyndŵrGlyn Dŵr yn [[Tywysog Cymru|Dywysog Cymru]].<ref name="R. Davies, 1995"/>
 
Mae'n amlwg fod Crach Ffinnant wedi gwasanaethu fel [[Beirdd yr Uchelwyr|bardd teulu]] i GlyndŵrGlyn Dŵr ar fwy nag un achlysur, er na cheir testunau ganddo yn y llawysgrifau sydd wedi goroesi. Ymddiddorai GlyndŵrGlyn Dŵr, fel pob Cymro bron, yn y [[brudiau]], sef y [[Canu darogan|daroganau ar gân]] a thestunau rhyddiaith sy'n ymwneud â daroganu dyfodiad y [[Mab Darogan]] i arwain y [[Cymry]] i fuddugoliaeth yn erbyn y [[Saeson]]. Mae'n rhesymol tybio, felly, fod Crach Ffinnant yn cynghori GlyndŵrGlyn Dŵr ar faterion gwleidyddol a strategol yng nghyd-destun y brudiau (gwyddys fod GlyndŵrGlyn Dŵr wedi ymgynghori â'r brudiwr ac ysgolhaig [[Hopcyn ap Tomas]] yn [[1404]], er enghraifft).<ref name="R. Davies, 1995"/>
 
==Cof amdano==
Pan ddathlwyd ymosodiadau GlyndŵrGlyn Dŵr ar [[Castell Caernarfon|Gaernarfon]] (ar bedwar achlysur, 1401-1404) yn 2004, cymerodd y bardd a cherddor [[Twm Morys]] ran Crach Ffinnant mewn pasiant i nodi'r achlysur.<ref>[http://www.agencebretagnepresse.com/fetch.php?id=1548 AgenceBretagnePress.com]</ref>
 
==Cyfeiriadau==
Llinell 25:
[[Categori:Llenorion Cymreig y 15fed ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau'r 15fed ganrif]]
[[Categori:Owain GlyndŵrGlyn Dŵr]]
[[Categori:Pobl o Wynedd]]