Llanusyllt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Saundersfoot Harbour - geograph.org.uk - 13428.jpg|bawd|dde|Harbwr Saundersfoot]]
 
Pentref glan-môr yn ne-ddwyrain [[Sir Benfro]], yw '''Saundersfoot'''. Enw Cymraeg ac enw hanesyddol yr ardal yw '''Llanusyllt''', sy'n cyfeirio at eglwys gyfagos wedi'i chysegru i Sant Usyllt<ref>http://geiriaduracademi.org/</ref><ref>https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1386446/1389668/37#?xywh=-852%2C1389%2C3924%2C1940</ref>. Gyda'i gymydog [[Dinbych-y-Pysgod]], 2 filltir i'r de, mae'n un o'r cyrchfeydd gwyliau mwyaf poblogaidd yng [[Cymru|Nghymru]]. Mae'n enwog am ei draethau braf ar [[Bae Caerfyrddin|Fae Caerfyrddin]].
 
Adeiladwyd yr [[harbwr]] yn [[1829]] ar gyfer allforio [[glo carreg]] (''anthracite'') o'r [[Diwydiant glo Cymru|pyllau glo]] niferus yn yr ardal (e.e. yn ardal [[Stepaside]]), ond cyn hynny allforid glo o'r traeth ei hun am ganrifoedd. Tyfodd y pentref o gwmpas yr harbwr. Mae cwrs hen dramffordd o bwll Cwrt Bonville yn croesi'r pentref tra fod y yr hen dramffordd o bentref [[Amroth]] yn ffurfio'r promenad heddiw. Daeth y diwydiant glo i ben ar ddechrau'r [[20g]].