Marford: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Cymuned ym mwrdeisdref sirol Wrecsam yw '''Marford'''. Nid ymddengys fod enw Cymraeg yn bodoli. Saif ychydig i'r dwyrain o'r briffordd A483, rhwng [[Gresffordd]...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 13:29, 11 Chwefror 2008

Cymuned ym mwrdeisdref sirol Wrecsam yw Marford. Nid ymddengys fod enw Cymraeg yn bodoli. Saif ychydig i'r dwyrain o'r briffordd A483, rhwng Gresffordd a Rossett. Llifa Afon Alun gerllaw. Ystyrir ward Marford a Hoseley yn un o'r tair ward gyfoethocaf yng Nghymru. Ceir dwy dafarn yma, ond nid oes siop bellach, ac mae'r ddau gapel wedi cau.

Adeiladwyd llawer o dai y pentref gan ystad Trefalun, ac mae Marford yn enwog am ei bythynnodd yn yr arddull a elwir yn cottage orné. Rhestrwyd amryw ohonynt gan Cadw. Ar un adeg roedd y pentref yn enwog am ei ysbrydion.

Gerllaw'r pentref mae hen chwarel, a agorwyd yn 1927 i gloddio defnydd ar gyfer Twnel Merswy. Caewyd y chwarel yn 1971. Enwyd yu safle yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn 1989, ac yn 1990 prynodd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru 26 acer o'r safle i'w ddatblygu fel gwarchodfa.