Marchwiail: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Pentref ym mwrdeistref sirol Wrecsam, tua dwy filltir a hanner i'r de-ddwyrain o dref Wrecsam ei hun, yw '''Marchwiail''' (llurguniad Saesneg: ''Marchwiel''). ...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Pentref ym [[Wrecsam (sir)|mwrdeistref sirol Wrecsam]], tua dwy filltir a hanner i'r de-ddwyrain o dref [[Wrecsam]] ei hun, yw '''Marchwiail''' (llurguniad Saesneg: ''Marchwiel'').
 
Gorwedd y pentref ym mhlwyf Marchwiail ym [[Maelor SaesnegGymraeg]], ym [[Maelor]], y rhan o ogledd-ddwyrain Cymru sy'n ymwthio i mewn i Loegr, ar yr [[A525]] hanner ffordd rhwng Wrecsam a [[Bangor Is Coed]] i'r de-ddwyrain.
 
Cysegrir yr eglwys i'r [[Sant]]es [[Marchell]] ac i Sant [[Deiniol]]. Yn ôl yr hynafiaethydd [[Edward Lhuyd]], i Ddeiniol y cyflwynwyd yr eglwys ar y dechrau. Cafodd adeilad yr eglwys ei ailgodi o'r newydd bron yn y [[18fed ganrif]]. Mae'n adnabyddus am ffenestr wydr-liw a adnabyddir fel "ffenestr Yorke".<ref>[[Frank Price Jones]], ''Crwydro Dwyrain Dinbych'' ([[Cyfres Crwydro Cymru]], 1961), t. 118.</ref>