Bhasha Andolon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:LM1952.jpg|thumb|250px|Gorymdaith y Mudiad Iaith ar 21 Chwefror 1952 yn [[Dhaka]].]]
[[Mudiad iaith]] gwleidyddol a sefydlwyd yn [[Pakistan|Nwyrain Pacistan]] ([[Bangladesh]] heddiw) er mwyn ennill cydanbyddiaeth i'r iaith [[Bengaleg|Fengaleg]] fel [[iaith swyddogol]] ym Mhacistan oedd '''Bhasha Andolon''' ([[Bengaleg]] ভাষা আন্দোলন ; 'Mudiad yr Iaith'/'Mudiad yr Iaith Fengaleg'). Buasai cydnabyddiaeth o statws swyddogol i'r iaith, oedd yn famiaith i fwyafrif y boblogaeth, yn caniatau ei defnyddio yn yr ysgol ac yng ngweinyddiaeth y [[llywodraeth]].
 
Pan greuwyd [[gwladwriaeth]] Pacistan yn 1947, roedd ei ddau ranbarth, Dwyrain Pacistan (neu Ddwyrain [[Bengal]]; Bangladesh) a Gogledd Pacistan, wedi ei rannu o ran [[diwylliant]], [[daearyddiaeth]] ac [[iaith]] gyda gwlad anferth [[India]] yn gorwedd rhyngddynt. Yn 1948, cyhoeddodd [[Llywodraeth Pacistan]] mai [[Wrdw]] (Urdu) yn unig fyddai'r iaith genedlaethol, ac arweiniodd hyn at brostestiadau niferus gan siaradwyr [[Bengaleg]] Dwyrain Pacistan. Yn wyneb hynny a'r tensiynau enwadol ac anfodlonrwydd cyffredinol am y ddeddf newydd, gwaharddodd y llywodraeth gyfarfodydd cyhoeddus a ralïau. Ond penderfynodd myfyrwyr [[Prifysgol Dhaka]] ac ymgyrchwyr gwleidyddol eraill herio'r gyfraith a threfnu protest iaith ar [[21 Chwefror]] [[1952]]. Torwyd y brotest i fyny gan yr heddlu a lladdwyd rhai o'r myfyrwyr. Arweiniodd y marwolaethau hynny at sefyllfa o ansefydlogrwydd sifil ar raddfa eang a arweinwyd gan y [[Cynghair Awami|Cynghrair Mwslim Awami]] ([[Cynghrair Awami]] yn ddiweddarach). Ar ôl rhai blynyddoedd o wrthdaro, ildiodd y llywodraeth ganolog a rhoddwyd statws swyddogol i'r Fengaleg yn 1956. Yn 1999, cyhoeddodd [[UNESCO]] 21 Chwefror yn [[Diwrnod Mamiaith Rhyngwladol|Ddiwrnod Mamiaith Rhyngwladol]], mewn teyrnged i Fudiad yr Iaith Fengaleg ac i hawliau grwpiau ethnig-ieithyddol ledled y byd.