Bovium: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Roedd yn arfer gan y llengoedd Rhufeinig sefydlu ''depots'' o'r fath ger y prif gaerau er mwyn cael cyflenwad o ddeunyddiau - crochenwaith a deunydd adeiladu fel arfer - i'r gaer a'i garsiwn. Cyfeirir at Bovium yn yr ''Itinerarium Augustunium'' am [[Brittania|Brydain]] (adran II) fel ''depot'' yn gorwedd deg [[milltir Rufeinig]] i'r de o Deva. Gwyddom enw un o'r unedau a weithiai yno, sef y Cohors I Sunicorum.
 
Cafwyd olion gweithdai, siedau sychu ac [[odyn]]au ar gyfer cynhyrchu teiliau a chrochenwaith ar y safle yn Holt pan gloddiodd T. A. Acton yno ddiwedd y 1900au a dechrau'r 1910au. Roedd Bovium yn cynhyrchu'r deunydd yma rhwng tua [[90]] a [[125]] OC. Mae rhai o'r teiliau to wedi eu stampio a'r arwydd '''''LEG XX VV''''' ([[Legio XX Valeria Victrix]]), arwydd y lleng Rufeinig honno oedd a'i phencadlys yng Nghaer.
 
Credir fod olion tri adeilad mawr hirsgwar yn cynrychioli'r baracs. Mae un o'r rhain yn fwy sylweddol na'r ddau arall ac yn cynnwys stafell ar wahân yn ei ben, efallai ar gyfer pennaeth y gweithle (swyddog - [[canwriad]] efallai - yn y lleng). Ymddengys fod lle i tua 80 o wŷr yn yr adeilad. Damcaniaethir mai [[taeog]]ion oedd yn byw yn ddau adeilad arall, ond credir rhai mai ystabl oedd un ohonynt. Hefyd ar y safle ceir olion dau [[baddondy Rhufeinig|faddondy Rhufeinig]].