Taeog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Taeog''' yn y Canol Oesoedd oedd person oedd yn rhan o haen isaf cymdeithas, oedd yn rhwym wrth y tir ac heb hawl i'w adael heb ganiatad ei arglwydd. Roedd gan yr arglwydd neu'r tirfeddiannwr yr hawl i orfodi'r taeog i weithio ar diroedd yr arglwydd yn ddi-dâl. Ar un adeg roedd y system yn gyffredin trwy Ewrop ac mewn rhannau eraill o'r byd, ac mwenmewn rhai gwledydd parhaodd hyd yn [[19eg ganrif]], er enghraifft yn [[Rwsia]], lle rhyddhaodd [[Alexander II o Rwsia|Alexander II]] y taeogion ym [[1861]].
 
Credir i'r system yma ddatblygu o [[Caethwasiaeth|gaethwasiaeth]] amaethyddol yng nghyfnod [[yr Ymerodraeth Rufeinig]]. Yng Nghymru, nodir yng [[Cyfraith Hywel|Nghyfraith Hywel]] fod tri dosbarth mewn cymdeithas: y brenin, y breyr (y tirfeddiannwr rhydd) a'r taeog. Nid oedd y taeol heb hawliau cyfreithiol, ond roeddynt yn llai na'r ddau ddosbarth arall. Er enghraifft, yn ôl Cyfraith Hywel roedd [[sarhad]] taeog yn llai, ac roedd rhai crefftau na allai taeog ei dysgu i'w fab heb ganiatad ei arglwydd, sef gofaniaeth, ysgolheictod a barddoniaeth, oherwydd roedd unrhyw un oedd yn dilyn y swyddogaethau hynny yn ŵr rhydd. Gelwid tref o daeogion yng ngwasanaeth yr arglwydd neu dywysog lleol yn faerdref. Dechreuodd y drefn ddadfeilio oherwydd effeithiau'r [[Pla Du]] yn y [[14eg ganrif]], pan achubodd llawer o daeogion ar y cyfle i adael y tir.