Pentre-llyn-cymmer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

pentref ym Mwrdeistref Sirol Conwy
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Pentref bychan yng nghornel dde-ddwyreiniol sir Conwy yw '''Pentre-llyn-cymmer''', hefyd '''Pentrellyncymmer''', '''Pentre Llyn Cymmer''' ac amrywiadau eraill. Mae yn...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 12:16, 13 Chwefror 2008

Pentref bychan yng nghornel dde-ddwyreiniol sir Conwy yw Pentre-llyn-cymmer, hefyd Pentrellyncymmer, Pentre Llyn Cymmer ac amrywiadau eraill. Mae yn ardal wledig Uwch Aled, tua tair milltir i'r gogledd o Gerrigydrudion. Saif lle mae Afon Brenig yn ymuno ag Afon Alwen.

Ceir dwy gronfa ddŵr fawr gerllaw, Llyn Brenig ychydig i'r gogledd a Chronfa Alwen i'r gogledd-orllewin. Ceir Canolfan Addysg Awyr-agored yma.